Rhyddhau dyn a gafodd ei arestio wedi gwrthdrawiad A55

A55
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A55 yn Sir Conwy wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Bu farw dynes yn ei 40au yn y gwrthdrawiad rhwng car a lori ar 29 Ionawr, ac fe gafodd tri pherson eu cludo i'r ysbyty.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod dyn 57 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac achosi niwed corfforol difrifol trwy yrru'n beryglus.

Mewn diweddariad ddydd Llun, dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Ddydd Gwener cafodd y ddynes a fu farw ei henwi'n lleol fel Jennifer Anne Brown o ardal Niwbwrch ar Ynys Môn.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi'n teithio yn y car ac wedi cael ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Cafodd y tri pherson arall oedd yn teithio yn y car eu cludo i'r ysbyty.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig