Gwenda Mathias o Hermon a'i her ddyddiol dros achos da

- Cyhoeddwyd
Mae Gwenda Mathias o Hermon yn disgrifio cerdded fel 'rhan o bwy ydw i' ac, ym mis Chwefror eleni, mae hi'n cerdded pum milltir bob dydd er mwyn codi arian at achos da.
Mae Gwenda, sy' newydd droi'n 80 oed ym mis Ionawr, yn hoff iawn o gerdded ar ei phen ei hun, fel mae'n sôn ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru: "Dwi'n mynd pace fy unan. Dwi ddim yn hoff iawn o gerdded gyda phobl eraill.
"Ond mae e mor llesol i chi yn feddyliol ac yn gorfforol."
Ysbrydoliaeth
Ac mi fydd sialens gerdded mis Chwefror yn codi arian tuag at Apêl Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, sef Ymchwil Canser Cymru, gyda Gwenda yn barod wedi casglu mwy na £1500.
Nid dyma'r sialens gerdded gyntaf i Gwenda, sy' wedi codi arian i'r Ambiwlans Awyr ac i Gymorth Cristnogol yn y gorffennol.
Mae hi'n hoff iawn o osod her i'w hun, fel mae'n dweud: "Dwi wedi neud hyn dair gwaith o'r blaen.
"'Nes i e yn ystod blwyddyn gyntaf Covid a dwi wedi neud e dwy waith ers hynny ac wedi codi tipyn o arian i elusennau.
"Ond dwi'n mwynhau cerdded, so dwi ddim yn teimlo fe'n rhyw her fawr ond dwi gymaint a hynny yn henach erbyn hyn.
"Ac mae bywyd yn brysur, ond dwi mor ffodus bod fy iechyd i yn cadw'n dda, mae yna lawer allai ddim fod yn meddwl am cerdded.
"Mae cerdded yn rhan o bwy ydw i. Y broblem yw yr amser hyn o'r flwyddyn ym mis Chwefror mi allai'r tywydd fod yn wael.
"Dwi ddim yn hoff o gerdded yn y glaw ond pan wyt ti'n meddwl am bobl yn mynd trwy ganser a'r chemotherapi a'r radiotherapi ac yn y blaen, dwi'n meddwl 'beth sy' 'da fi i achwyn ambutu', dim ond cerdded pum millitir bob dydd am fis i gymharu â beth mae rhai yn mynd trwyddo.
"Felly, 'na'r ysbrydoliaeth dwi'n cael i wneud e."

Gwenda ar ei phen-blwydd yn 80 oed
Mae'r achos yn un sy'n agos iawn i'w chalon fel llywydd cangen Tegryn o Ferched y Wawr: "Ni'n dathlu hanner can mlynedd oddi ar sefydlu'r gangen yn Tegryn.
"Mae Merched y Wawr yn rhan fawr o'n fywyd i a ni'n falch iawn a'n browd iawn ohono.
"Bydd yr arian yn mynd yn filoedd gobeithio i Ymchwil Canser Cymru."
Mae Gwenda, sy' wedi bod yn ysgrifennydd Capel Llwyn-yr-Hwrdd ers 40 mlynedd, yn disgrifio ei hun fel 'merch ei milltir sgwâr' ac mi fydd hi'n gweld tipyn o'i hardal yn Sir Benfro wrth iddi gerdded 11,000 o gamau bob dydd o'r mis bach: "Mwy na thebyg fyddai'n cerdded yn lleol imi a jyst yn neud rhyw gerdded o bentre i bentre, felly lawr i Glog, lan i Tegryn, nôl lawr i Lanfyrnach ac wedyn nôl i Hermon.
"Ond ar ddiwrnod bendigedig byddai'n mynd lawr i'r Parrog, Trefdraeth neu i Bwllgwaelod.
"Amser hyn o'r flwyddyn dwi'n deuddol o gadw at yr heolydd. Ond yn yr haf sym dal. A dwi'n licio cerdded wrth fy hunan."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Ionawr

- Cyhoeddwyd25 Ionawr
