Miloedd o gardiau Nadolig ar ôl apêl mam sydd â salwch terfynol

Mae Clare Jones wedi derbyn miloedd o gardiau ar ôl i'w chais ar-lein gael ei rannu gyda thros 10,000 o bobl
- Cyhoeddwyd
Mewn cartref ym Mhontarddulais, mae miloedd o gardiau wedi glanio drwy'r blwch llythyrau ar ôl cais gan fam sydd eisiau i'w Nadolig olaf fod yn un "arbennig iawn".
Cafodd Clare Jones, sydd â thri o blant ddiagnosis o ganser y coluddyn ym mis Mai 2023, ond yn ddiweddar cafodd wybod nad oedd y driniaeth cemotherapi bellach yn gweithio, a bod ganddi tua 10 mis i fyw.
Ar gyfryngau cymdeithasol, gofynnodd Clare, 47, i bobl os y gallen nhw anfon un cerdyn ychwanegol eleni, gan ddweud ei bod yn "caru'r Nadolig ac fe fyddwn i'n caru cael llawer o gardiau eleni".
Roedd wedi gobeithio am ryw 10-15 o gardiau ychwanegol gan ffrindiau, ond ar ôl i'w neges gael ei rhannu gyda thros 10,000 o bobl, mae miloedd o gardiau wedi cyrraedd yn ogystal â blodau, siocledi, tocynnau theatr a hyd yn oed gwyliau mewn carafán.
'Pawb wedi bod mor garedig'
Wrth eistedd yn ei chegin wedi ei hamgylchynu gan gardiau a rhoddion, dywedodd Clare bod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel", a'i bod wedi meddwl ers tro am roi'r cais ar-lein, ond ei bod yn poeni y gallai ymddangos yn "ddigywilydd".
"Dwi eisiau ateb pob un ohonyn nhw, mae pawb wedi bod mor garedig," meddai.

Mae Clare yn dweud bod y postmon wedi dod â 200 o gardiau iddi ddydd Iau yn unig, gyda pharseli yn cyrraedd o bob cwr o'r byd
Ar ôl cael triniaeth i dynnu tiwmor yn 2022, cafodd Clare wybod bod canser y coluddyn wedi lledaenu i'w nodau lymff, ac wedi datblygu i fod yn ganser cam 4.
Ym mis Tachwedd cafodd wybod nad oedd y cemotherapi ar gyfer crebachu'r canser bellach yn gweithio ac mai 10 mis oedd hyd oes tebygol claf yn ei sefyllfa hi.
Tra'n realistig am ei diagnosis, mae Clare yn parhau'n obeithiol am "wyrth Nadolig".

Mae Clare a'i phlant wedi mwynhau darllen y cardiau gyda'i gilydd, ac mae'n dweud ei bod eisiau diolch yn unigol i bob un sydd wedi eu hanfon
Mae hi wedi disgrifio'r misoedd diwethaf fel rhai eithriadol o anodd, wrth iddi orfod dweud wrth ei thri o blant, Sami, 22, Finley, 20, a Summer, 16, ei bod hi'n bosib mai hwn fydd ei Nadolig olaf.
"Sut ydych chi'n dweud hynny wrthyn nhw? Tydi fy merch ddim yn credu'r newyddion."
Mae'r tri yn byw gartref gyda Clare, sydd wedi eu magu ar ei phen ei hun dros y deng mlynedd diwethaf, ac mae'n dweud mai un o'i phrif bryderon ydi eu gadael nhw ar ôl.
Ar ôl rhoi'r neges ar Facebook, dywedodd Clare iddi dderbyn tri cherdyn ychydig oriau yn ddiweddarach gan bobl yn yr ardal nad oedd hi erioed wedi eu cyfarfod o'r blaen.
"Mae wedi bod yn wallgof, pa mor garedig all pobl fod," meddai.
Mae'n dweud ei bod wrth ei bodd yn derbyn cardiau a'u cadw, ond bod pobl y dyddiau yma yn tueddu i anfon negeseuon, sy'n hyfryd meddai, "ond ddim wir yr un fath".
'Eisiau treulio'r amser gyda'r teulu'
Dywedodd ei bod yn difaru peidio mynd i weld meddyg ynghynt gan bod ganddi symptomau ers tro ond roedd hi'n credu bod ganddi "anhwylder ar y stumog".
Ychwanegodd nad oedd yn teimlo'n wael ar hyn o bryd, ond ei bod yn gwybod na fydd yn teimlo fel hyn am lawer hirach.
"Mae gen i lawer o bobl o fy ngwmpas sydd yn fy ngharu i. Petai cariad yn gallu gwella canser, yna fe fyddwn i wedi cael gwellhad."
Mae ganddi gynlluniau ar gyfer teithiau gyda'i theulu dros y Nadolig, gan gynnwys gwyliau carafán a diwrnod allan yn y theatr.
"Dwi eisiau treulio'r amser sydd gen i ar ôl gyda fy nheulu," meddai.
Straeon Perthnasol
'Bydden i ddim yma'r Nadolig hwn heb roddion gwaed'
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2025
'Dwi eisiau helpu plant eraill sy'n wynebu canser fel nes i'
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2025
Meibion mam sengl â chanser yn codi miloedd ar gyfer uned cemotherapi
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.