Myfyrwyr yn wynebu gorfod talu ffioedd am nad yw cyrsiau'n cael eu cydnabod

Cian Edward Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Cyllid Myfyrwyr Cymru ddim yn fodlon cyfrannu at ffioedd Cian Edward Williams

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai myfyrwyr o Gymru sydd eisiau astudio cyrsiau creadigol arbenigol yn Lloegr yn wynebu gorfod talu am ffioedd y cyrsiau eu hunain, oherwydd trafferthion dynodiad rhai colegau.

Daw'r pryder ar ôl iddi ddod i'r amlwg nad yw rhai colegau a chyrsiau yn cael eu cydnabod yn ffurfiol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, gan nad ydyn nhw wedi cofrestru gyda'r rheoleiddiwr OFS.

Mae'n golygu nad yw Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cydnabod rhai cyrsiau penodol ac nad oes modd iddyn nhw gynnig cyllid i fyfyrwyr o Gymru sydd am eu hastudio.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa, a lle colegau ydy gwneud cais am ddynodi cwrs i Medr - y rheoleiddiwr yma yng Nghymru.

Syrcas

Mae grwpiau celfyddydol yn dweud bod y sefyllfa'n atal rhai rhag astudio cyrsiau penodol, oni bai eu bod yn dod o hyd i filoedd o bunnoedd ar gyfer ffioedd myfyrwyr.

Un grŵp sy'n poeni am y goblygiadau ydy CircoArts yng Ngwynedd, criw o bobl sy'n hyfforddi ac yn cynnal sesiynau syrcas.

Syrcas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cian Edward Williams (dde) wedi cael cynnig i astudio mewn coleg yn Lloegr sy'n hyfforddi ym maes y syrcas

Yr wythnos hon mi glywodd Cian Edward Williams, 20, ei fod wedi llwyddo mewn cyfweliad i astudio yn Circomedia - coleg yn Lloegr sy'n hyfforddi ym maes y syrcas.

Ond oherwydd y newidiadau, dydy Cyllid Myfyrwyr Cymru ddim yn fodlon cyfrannu at ei ffioedd ac felly byddai'n rhaid iddo ddod o hyd i'r arian ei hun.

"Nath o roi fi lawr lot a hyd yn oed bron 'neud i mi benderfynu nad oeddwn i am wneud yr audition," meddai.

"Ges i e-bost basically yn dweud: 'Da ni methu fundio chdi' a bod 'na ddim second option. Oedd o just yn teimlo bo' nhw heb roi meddwl mewn iddo, heb feddwl am y backlash."

Ei freuddwyd ydy teithio ar draws y byd yn perfformio, ond mae'n ansicr a fydd modd astudio rŵan i wireddu hynny.

Eirwen Howorth
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn gorfod ystyried yn ofalus "ydyn nhw wir yn gallu" astudio rhai pynciau, meddai Eirwen Howorth

Mae'r trafferthion hefyd yn effeithio ar gyrsiau arbenigol ym maes perfformio, theatr a dawns.

Mae Eirwen Howorth yn gweithio gyda chriw Circomedia ac yn dweud nid pawb all gynnal y cwrs eu hunain.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cymryd for granted eu bod nhw'n gallu astudio beth bynnag maen nhw eisiau.

"Ond oherwydd y funding cuts mae rhai pobl yn gorfod meddwl os ydyn nhw wir yn gallu gwneud hyn a dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn gallu fforddio talu student loans allan o'u poced."

Mzima Tomkins
Disgrifiad o’r llun,

Gallai cymunedau yng Nghymru golli allan, yn ôl Mzima Tomkins

Mae CircoArts yng ngogledd Cymru yn teithio ar draws cymunedau ac yn cynnal sesiynau mewn ardaloedd sy'n gymwys ar gyfer cynllun Dechrau'n Deg.

Mae un o arweinwyr y grŵp, Mzima Tomkins, yn dweud y gallai cymunedau yng Nghymru golli allan hefyd.

"Da' ni 'di helpu pobl fynd i Loegr i astudio ers blynyddoedd ac i weld ffrindiau fi'n cael eu hopes and dreams yn cael ei rhwygo oddi wrthyn nhw, mae'n edrych i mi nad oes 'na reswm.

"Dwi just yn really trist," meddai Ms Tomkins.

Newidiadau i brosesau cofrestru rhai cyrsiau sydd wedi arwain at y trafferthion, yn ôl undebau, colegau a phrifysgolion siaradodd â Newyddion S4C.

Er mwyn i Gyllid Myfyrwyr Cymru allu cyfrannu'n ariannol at ffioedd, mae'n rhaid i gwrs a choleg fod wedi cofrestru gyda swyddfa'r OFS, y rheoleiddiwr.

Mae rhai colegau annibynnol mewn partneriaethau gyda phrifysgolion mwy ac yn benthyg y statws hwn.

Ond eleni mae dryswch o ran pwy sy'n gyfrifol am wneud hynny ac nid yw wedi digwydd, sy'n golygu nad oes modd i Gyllid Myfyrwyr Cymru gynnig benthyciadau.

Mae 7,000 o lofnodion ar ddeiseb ar-lein yn galw am newid i'r drefn.

'Pecyn cynnal myfyrwyr mwyaf hael yn y DU'

Wrth ymateb i'r pryderon mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod "yn ymwybodol o'r mater hwn ac wedi bod yn gweithio gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru i ystyried y goblygiadau".

"Mae darparwyr yn gyfrifol am wneud cais dynodi cwrs i Medr, sy'n galluogi myfyrwyr o Gymru sydd yn gymwys i gael mynediad at gyllid myfyrwyr ac rydym wedi eu hatgoffa am y cyfrifoldeb hwn.

"Mae Cymru yn parhau i gynnig y pecyn cynnal myfyrwyr mwyaf hael yn y DU i fyfyrwyr cymwys ar gyrsiau dynodedig."

Dywedodd Medr nad oes gan y corff "unrhyw ran yn y dynodiad awtomatig o gyrsiau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr.

"Mae hwn yn fater i Lywodraeth Cymru a'r darparwyr yr effeithir arnynt."

"Fodd bynnag, rydym yn parhau i wneud Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bryderon ynghylch llwybrau ariannu ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru, sy'n hyfforddi mewn theatr gerdd a dawns yn Lloegr ac rydym yn cael gwybod am y sefyllfa."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.