Gweinidog Llafur o Gymru yn ymddiswyddo ac yn galw ar Keir Starmer i 'wrando'

Mae Syr Keir yn wynebu pwysau cynyddol o fewn ei blaid ei hun i ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llafur Pontypridd wedi ymddiswyddo fel gweinidog yn Llywodraeth y DU, wrth i'r pwysau gynyddu ar y Prif Weinidog Keir Starmer.
Roedd Alex Davies-Jones yn Weinidog dros Ddioddefwyr a Thrais yn erbyn Menywod a Merched, ac yn ei llythyr ymddiswyddiad i'r Prif Weinidog mae hi'n galw arno i osod amserlen ar gyfer ei ymadawiad o Downing Street.
Dywedodd bod "maint y colledion etholiadol yn Senedd Cymru ac ar draws y DU wedi bod yn gatastroffig.
"Mae'r wlad wedi siarad ac mae'n rhaid i ni wrando," meddai.
Mae hi'n un o bedwar gweinidog i ymddiswyddo hyd yma ddydd Mawrth.
Mae'r Prif Weinidog wedi mynnu yn dilyn cyfarfod o'r cabinet fore Mawrth na fydd yn ildio'r awenau ac y bydd yn "bwrw mlaen i lywodraethu".

Mae AS Llafur Pontypridd, Alex Davies-Jones wedi ymddiswyddo fel gweinidog yn San Steffan wrth i'r pwysau gynyddu ar Keir Starmer
Mae dau AS Llafur Cymreig, Ruth Jones a Tonia Antoniazzi hefyd ymhlith dros 80 o ASau Llafur sydd wedi galw ar eu harweinydd i ymddiswyddo.
Wrth i gabinet Starmer gwrdd fore Mawrth galwodd yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood yn gyhoeddus hefyd am newid.
Deallir bod dros 100 o ASau Llafur eraill wedi arwyddo llythyr yn cefnogi'r Prif Weinidog, gan rybuddio nad dyma'r amser i gynnal ras am yr arweinyddiaeth.
Daw wedi i Lafur golli tir ar draws y DU mewn etholiadau yr wythnos diwethaf, gan gynnwys colli grym yng Nghymru am y tro cyntaf mewn degawdau.
Dywedodd Ms Jones - cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ac AS Gorllewin Casnewydd ac Islwyn - bod Syr Keir wedi gwneud "gwaith gwych" ond hefyd "llawer o gamgymeriadau".
Ychwanegodd Ms Antoniazzi, AS Gŵyr, ei bod yn amser iddo "gamu o'r neilltu" fel prif weinidog.
Ysgrifennydd Cymru hefyd dan bwysau
Mae Syr Keir yn wynebu pwysau cynyddol o fewn ei blaid ei hun i ymddiswyddo, ond dydd Llun dywedodd y byddai'n profi'r rhai sy'n ei amau yn anghywir.
Fe wnaeth gydnabod bod ei lywodraeth wedi gwneud camgymeriadau, ond dywedodd eu bod "wedi cael y penderfyniadau mawr yn gywir".
Mae un AS Llafur wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens ymddiswyddo.
Dywedodd yr AS, oedd ddim eisiau cael ei enwi: "Dydw i ddim yn credu bod hi'n iawn i Eluned [Morgan] gymryd y cyfrifoldeb i gyd.
"Rwy'n credu y dylai Ysgrifennydd Cymru gymryd rhan o'r cyfrifoldeb hefyd - cael ei dal i gyfrif ac ymddiswyddo."

"Rwy'n credu ein bod ni angen iddo osod amserlen ar gyfer ymddiswyddo," meddai Ruth Jones
Yn ôl Ruth Jones, dyw'r prif weinidog "ddim yn torri trwodd ar y stepen drws fel arweinydd sydd â charisma".
Dywedodd ar BBC Radio Wales ddydd Llun: "Rwy'n credu ein bod ni angen iddo osod amserlen ar gyfer ymddiswyddo - nid eto, nid ar frys.
"Mae wedi gwneud gwaith gwych - mae wedi bod yno am chwe blynedd, wedi ein cael ni i mewn... gyda mwyafrif enfawr.
"Ond mae wedi gwneud nifer o gamgymeriadau, ac wedi gwneud sawl tro pedol."

Mae angen i Keir Starmer "gamu o'r neilltu fel prif weinidog mewn ffordd drefnus", meddai Tonia Antoniazzi
Dywedodd Tonia Antoniazzi ar ei chyfryngau cymdeithasol brynhawn Llun ei bod hi hefyd yn galw ar Syr Keir i fynd.
"Mae Syr Keir Starmer yn ddyn gonest sydd wedi arwain y Blaid Lafur trwy amseroedd anodd," meddai.
"Bydd rhai yn anghytuno, ond rydw i wirioneddol yn credu ei bod yn amser iddo gamu o'r neilltu fel prif weinidog mewn ffordd drefnus."
Ond mae yna aelodau Llafur sydd wedi cefnogi Syr Keir hefyd, gydag AS Aberafan Stephen Kinnock yn dweud fod angen "canolbwyntio llai ar bersonoliaethau unigol, a mwy ar wleidyddiaeth a pholisïau".
Ychwanegodd Carolyn Harris - AS Castell-nedd a Dwyrain Abertawe a dirprwy arweinydd Llafur Cymru - bod "unrhyw un sy'n credu bod nawr yn amser da i newid prif weinidog yn naïf a deluded."

Dywedodd Huw Thomas fod Keir Starmer wedi bod yn "Brif Weinidog da i Gymru", ond bod angen i Lafur wrando ar etholwyr ar ôl colledion yr etholiad
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd aelod newydd Llafur o'r Senedd dros Gaerdydd Penarth, Huw Thomas, fod "Keir Starmer wedi bod yn Brif Weinidog da i Gymru".
Ond gwrthododd ddweud a oedd yn credu y dylai Starmer ymddiswyddo ai peidio.
"Ni wedi gweld cysylltiad ariannol i Gymru. Pan oedd e yng Nghymru ddiwethaf fe gyhoeddodd £14 biliwn tuag at brosiectau rheilffyrdd yng Nghymru.
"Dwi ddim am fynd i mewn i beth sydd wedi digwydd iddo fe oherwydd mae hynny lawr i Aelodau Seneddol yn San Steffan.
"Dyw e ddim yn deg ond mae yna gasineb tuag at Keir Starmer. Cawn weld lle mae'r stori yn mynd. Mae e'n hanfodol ei fod yn dysgu gwersi ar bob lefel. Roedd yna rhwystredigaethau yn agosach i adref.
"Mae'n rhaid i Blaid Lafur Cymru wrando ar beth mae etholwyr yn ei ddweud wrthyn nhw a'r rhai wnaeth ddim pleidleisio i ni. Sut ddylsen ni newid i adlewyrchu hynny ac i barhau i geisio cael y deal gorau i Gymru a dal Plaid Cymru i account."

Dywedodd Alun Michael nad oedd yn meddwl "ei bod hi ar ben i Starmer"
Yn ôl cyn-arweinydd Llafur Cymru, Alun Michael, dylai Aelodau Seneddol "roi'r gorau i obsesiynu dros heriau arweinyddiaeth a chanolbwyntio ar wella bywydau pobl".
"Dwi ddim yn meddwl ei bod hi ar ben i Starmer," meddai ar Dros Frecwast.
Dywedodd fod pobl yn anghofio "y math o heriau" mae Keir Starmer wedi gorfod eu hwynebu, gan gynnwys "gwallgofrwydd Trump yn y Tŷ Gwyn a'r sefyllfa fregus gydag Iran, hefyd y trychineb ariannol gadawodd y Ceidwadwyr a'r her fawr o ailadeiladu cysylltiadau ag Ewrop".
"Nid yw'r rhain yn bethau gall gael eu datrys dros nos."
Mewn ymateb i sylwadau Huw Thomas yn gynharach ar y rhaglen, dywedodd fod "pobl eisiau gweld pethau'n llwyddo ond mae hynny'n cymryd amser".
"Mae yna lot o bobl heb y casineb ac maen nhw'n teimlo ei fod yn gwneud job dda hyd yn hyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.