Pryfed ac offer budr ymhlith pryderon arolygwyr am fwyty Ynyshir

YnyshirFfynhonnell y llun, Ynyshir
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ynyshir ddwy seren Michelin ers 2022

  • Cyhoeddwyd

Roedd pryfed, offer wedi torri a llawr budr ymhlith y pryderon gafodd eu codi gan arolygwyr yn dilyn ymweliad â'r unig fwyty yng Nghymru sydd â dwy seren Michelin.

Dywedodd prif gogydd bwyty Ynyshir, ger Machynlleth "nad yw'n teimlo cywilydd" ar ôl derbyn sgôr hylendid bwyd o un allan o bump.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, mae BBC Cymru wedi gweld adroddiad llawn yr arolygwyr, sy'n cynnwys gorchymyn i beidio gweini cimwch amrwd a nodyn bod pryfed - byw a marw - a chyllell fudr wedi eu canfod yn y bwyty.

Dywedodd Ynyshir mewn ymateb fod yr adroddiad wedi nodi "nifer fach o faterion sy'n arferol mewn cegin broffesiynol yng nghefn gwlad Cymru wledig" a'u bod wedi gweithredu ar unwaith i ddatrys y materion hynny yn llawn.

Mae'r bwyty hefyd yn awgrymu bod rhannau o'r adroddiad yn "ffeithiol anghywir" a bod gan adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Ceredigion "ddiffyg dealltwriaeth o'n prosesau arbenigol".

Yn ymateb i'r sylwadau hynny, dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod "cefnogi barn broffesiynol a chanfyddiadau ein staff wrth weithredu safonau hylendid bwyd".

'Angen gwelliant mawr'

Mae adroddiad yr arolygwyr yn nodi bod pryfed yn peri "risg sylweddol i ddiogelwch bwyd" gan eu bod yn gallu cario bacteria niweidiol fel E. coli a Salmonela.

Roedd gan ddarn o dâp gludiog mewn ystafell paratoi bwyd nifer o bryfed marw arno, meddai'r ddogfen.

Mae'r arolygwyr hefyd yn tynnu sylw at lawr budr, cyfleusterau golchi dwylo annigonol mewn rhai ardaloedd ac offer oedd wedi torri.

Mae sgôr hylendid bwyd o un allan o bump yn golygu bod angen "gwelliant mawr".

Nododd yr adroddiad fod angen gwelliant mawr yn y ffordd y mae diogelwch bwyd yn cael ei reoli yn ogystal â glendid a chyflwr y cyfleusterau, tra bod y ffordd mae bwyd yn cael ei drin yn cael ei ystyried "yn foddhaol ar y cyfan".

Gareth WardFfynhonnell y llun, Lafont
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Ward sydd wedi bod yn rhedeg y bwyty ers 2013

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod cig cimwch yn cael ei weini yn amrwd ac "nad oedd peryglon microbiolegol wedi eu hamlygu a'u rheoli yn llawn".

"Dylid rhoi stop ar weini cimwch amrwd ar unwaith neu bydd camau pellach - yn unol â pholisïau gorfodaeth y cyngor - yn cael eu hystyried," meddai'r adroddiad.

Ychwanegodd yr arolygwyr nad oedd unrhyw drefniant wedi ei ddogfennu ar gyfer storio'r cimwch byw na chwaith trefniadau o ran trin a rheoli safon y dŵr.

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod swyddogion wedi gofyn i gael gweld y fwydlen gyfredol, ond eu bod wedi gorfod gwneud sawl cais am hynny cyn i'r ddogfen gael ei darparu.

Fel rheol, mae bwydlen Ynyshir yn cynnwys tua 30 o gyrsiau sy'n cael ei gweini dros gyfnod o rai oriau, gyda chost o bron i £500 y pen.

Gareth WardFfynhonnell y llun, Heather Birnie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Ward yn dweud bod ei fwyty "yn gweithio ar y safon uchaf yn y byd"

Yn ôl yr adroddiad roedd sawl bwlch yn y gwaith papur sy'n ymwneud â dadansoddi peryglon posibl.

Mae'n nodi bod pryderon am ddiffyg cofnodion o ran tymereddau rhewi pysgod, y broses o storio hwyaid a cholomennod, a darnau o bysgod sydd i fod i gael eu bwyta yn amrwd.

Mae'n dod i'r casgliad fod angen i'r bwyty "adolygu ei system rheoli diogelwch bwyd fel cyfanwaith".

'Diffyg dealltwriaeth o'n prosesau arbenigol'

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd bwyty Ynyshir mewn datganiad: "Am sawl blwyddyn mae Ynyshir wedi wynebu heriau gydag adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Ceredigion, yn ymwneud yn bennaf â gwaith papur a diffyg dealltwriaeth o'n prosesau arbenigol.

"Rydyn ni, sawl tro, wedi addasu ein systemau, wedi ehangu ein gwaith papur ac wedi trafod gydag arbenigwyr diogelwch bwyd allanol er mwyn datblygu systemau sydd wedi eu teilwra ar ein cyfer.

"Byddwn yn parhau i adolygu ac addasu ein gwaith papur i adlewyrchu'r datblygiad o fewn y bwyty.

"Roedd yn siomedig bod ein gwaith wrth baratoi rhai prydau wedi eu cwestiynu, rhywbeth arweiniodd at orfod talu yn ddrud am brofion biolegol ychwanegol.

"Fe wnaeth y profion hynny gadarnhau bod ein technegau yn ddiogel, yn addas ac yn cyd-fynd â'r canllawiau."

Mae'r bwyty hefyd yn awgrymu bod rhannau o'r adroddiad yn "ffeithiol anghywir".

Mae'n cyfeirio at y "gyllell fudr" y mae'r arolygwyr yn tynnu sylw ato ac yn honni eu bod ynghanol y broses o'i glanhau ar y pryd, a dyna pam ei bod yn ymddangos yn fudr yn ystod yr ymchwiliad.

"Mae Ynyshir yn cyflogi bron i 30 o bobl leol ac yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad i letygarwch a thwristiaeth yng Nghymru," meddai'r datganiad.

"Mae Gareth Ward, Amelia a'r holl dîm yn Ynyshir yn gwbl ymroddedig i gynnal safonau diogelwch bwyd, proffesiynoldeb a thryloywder."

Y cyngor yn 'cefnogi barn ein staff'

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod "cefnogi barn broffesiynol a chanfyddiadau ein staff wrth weithredu safonau hylendid bwyd y DU".

"Mae arolygiadau yn cael eu cynnal yn unol â safonau cenedlaethol a osodwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd," meddai llefarydd.

"Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2025, fe wnaeth 90% o'r safleoedd a gafodd eu harolygu yng Ngheredigion gyflawni sgôr hylendid bwyd o 3-5 allan o bump."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig