Cyhoeddi prif swyddogion Eisteddfod Genedlaethol Powys 2027

Aled GriffithsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Aled Griffiths sydd wedi ei benodi yn gadeirydd y pwyllgor gwaith

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r swyddogion fydd yn arwain y gwaith paratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Powys.

Ym mis Ionawr daeth cadarnhad y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2027 yn cael ei chynnal ar dir fferm yn ardal Glantwymyn ger Machynlleth

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â Phowys ers Prifwyl Meifod yn 2015.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, ei bod yn "edrych ymlaen yn arw at gydweithio" gyda'r swyddogion newydd dros y flwyddyn a hanner nesaf.

Pwy yw'r swyddogion?

Aled Griffiths sydd wedi ei benodi yn gadeirydd y pwyllgor gwaith.

Yn bumed genhedlaeth ar y fferm deuluol ger Cwmlline, Dyffryn Dyfi, mae'n gweithio fel ysgrifennydd ac asiant yswiriant i'r NFU, ac mae'n gyn-gadeirydd ar sefydliad ysgrifenyddion y DU o'r undeb.

Mae ei filltir sgwâr yn bwysig iddo, ac mae'n aelod o Gyngor Cymuned Glantwymyn ers dros 25 mlynedd, ac yn gadeirydd Neuadd Cwmlline.

Yn gefnogwr o'r Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd, mae hefyd yn gystadleuydd brwd fel aelod o Gôr Meibion Machynlleth.

Heulwen Davies a Peter JonesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Heulwen Davies yw is-gadeirydd strategol y pwyllgor gwaith, a Peter Jones fydd yn arwain y gronfa leol

Peter Jones fydd yn arwain cronfa leol Eisteddfod 2027, ac mae'n edrych ymlaen at gydweithio'n lleol a chenedlaethol i sicrhau digwyddiad llwyddiannus, unigryw a chofiadwy i bawb.

Yn dilyn gyrfa yn y sector cyflenwi amaethyddol a llywodraeth leol, mae Peter wedi ymddeol ac yn cyfrannu at fywyd lleol fel llywodraethwr yn Ysgol Bro Hyddgen ac aelod o Gwmni Theatr Maldwyn.

Gyda'i gwreiddiau'n ddwfn yng Nglantwymyn, Heulwen Davies fydd is-gadeirydd strategol y pwyllgor gwaith.

Yn rhedeg cwmni marchnata a chysylltiadau lleol ers blynyddoedd, mae Heulwen yn edrych ymlaen at bwysleisio fod yr Eisteddfod yn ŵyl i bawb.

Mae'n edrych ymlaen yn arbennig at y gwaith o gydweithio gyda chymunedau ar draws y dalgylch i harddu'r ardal leol wrth i'r Eisteddfod agosáu.

Rhian Davies a Robyn Lyn EvansFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Davies yw ysgrifennydd y pwyllgor gwaith, gyda Robyn Lyn Evans yn is-gadeirydd diwylliannol

Robyn Lyn Evans sydd wedi'i ethol yn is-gadeirydd diwylliannol y pwyllgor gwaith.

Yn gystadleuydd llwyddiannus, beirniad a sylwebydd ar gystadlaethau lleisiol cenedlaethol a rhyngwladol, mae gan Robyn flynyddoedd o brofiad o drefnu gwyliau cerdd a hyrwyddo diwylliant Cymreig mewn ysgolion.

Mae wedi gweithio fel canwr opera llawrydd am dros 20 mlynedd, gan berfformio gyda chwmnïau opera cenedlaethol y DU i gyd ar lwyfannau cyngerdd mwyaf blaenllaw'r wlad a thu hwnt.

Ysgrifennydd y pwyllgor gwaith fydd Rhian Davies, sydd â thros 20 mlynedd o brofiad o ddatblygu prosiectau cymunedol, celfyddydol a diwylliannol gyda'r Mentrau Iaith.

Mae Rhian hefyd yn cydlynu Prosiect Wyth i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig yn genedlaethol ers 2022 a bu'n ysgrifennydd Gŵyl Gerdd Dant Bro Nansi 2022 ac Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

'Hyderus' ynglŷn â gweithio ar draws ffiniau

Dywedodd Betsan Moses: "Unwaith eto eleni, byddwn yn gweithio ar draws ffiniau, gan gydweithio gyda Chyngor Powys ynghyd â Chyngor Gwynedd.

"Mae hyn wedi gweithio'n dda wrth baratoi ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni, ac rydyn ni'n hyderus y byddwn yn cael profiad tebyg wrth baratoi ar gyfer Eisteddfod 2027."

Mae disgwyl cadarnhad yn yr wythnosau nesaf ynglŷn ag enw swyddogol yr Eisteddfod a lleoliad Gŵyl y Cyhoeddi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.