 Er mwyn deall Metelau ac Anfetelau, mae angen cofio: Mae'r rhan fwyaf o fetelau yn:-
- solidau sgleiniog ar dymheredd ystafell
- dargludyddion da o wres
- dargludyddion da o drydan
- hyblyg ac yn gryf, gyda dwysedd cymharol uchel
- tincial wrth eu taro
Mae rhai metelau'n fagnetig. Mae priodweddau anfetelau'n amrywio'n fawr, mae'r rhan fwyaf yn:-

- nwyon ar dymheredd ystafell - serch hynny, diemwnt yw un o'r sylweddau mwyaf caled a wyddom amdano
- dargludyddion gwael o wres a thrydan (ar wahân i graffit sydd yn dargludo trydan).
Mae'r gyfres adweithedd metelau yn dweud wrthym pa mor barod yw metelau i adweithio. Fe fydd metel sy'n uwch yn y gyfres adweithedd yn dadleoli un sy'n îs. 
Mae adweithio metel gydag ocsigen yn rhoi metel ocsid. Mae adweithio metel gydag asid yn rhoi halwyn a nwy hydrogen.
|