Er mwyn deall Dosbarthu Defnyddiau, mae angen cofio:
Mae mater yn bodoli fel solid, hylif neu nwy (e.e. iâ, dŵr, a stêm).
Mae trefn yr atomau, a'r egni sydd ganddynt i symud, yn wahanol yn y tri chyflwr.

Mae'n bosib meddwl am fater yn cynnwys gronynnau bach sy'n debyg i beli - model gronynnau ydy hwn.
Rydym yn defnyddio model gronynnau i esbonio'r gwahaniaeth rhwng y tri chyflwr.
Mae ychwanegu gwres yn gwneud i'r gronynnau
- deithio'n gyflymach (newid cyflwr)
- pellhau oddi wrth ei gilydd (dwysedd yn lleihau).
Wrth i ronynnau fwrw yn erbyn ochrau eu cynhwysydd, maent yn creu gwasgedd.
Mae codi tymheredd y nwy yn rhoi mwy o egni i'r gronynnau, maent yn bwrw'r welydd yn amlach, ac mae'r gwasgedd yn codi o ganlyniad.
Mae lleihau cyfaint y cynhwysydd yn rhoi llai o bellter i'r gronynnau nwy deithio, maent yn bwrw'r welydd yn amlach, ac mae'r gwasgedd yn codi o ganlyniad.
Mae angen deall y termau anweddu, cyddwyso, rhewi, berwi, ymdoddi a sychdarthu.
Mae'r holl fater sydd yn y bydysawd wedi ei wneud o atomau.
Elfen yw atom/atomau gyda nifer arbennig o brotonau.
Mae atom yn cynnwys yr un nifer o brotonau (gwefr bositif, màs cymharol o 1) ac electronau (gwefr negatif, màs cymharol agos i 0).
Mae gan bob elfen symbol, rhif atomig (nifer y protonau) a rhif màs (nifer y protonau+niwtronau).
Dangosir yr holl elfennau yn y tabl cyfnodol.
Os oes dwy neu ragor o elfennau wedi'u cyfuno, gelwir y canlyniad yn 'cyfansoddyn'. (e.e. Sodiwm a Clorin yn cyfuno i ffurfio Sodiwm Clorid - halen)
Mae gan gyfansoddyn briodweddau gwahanol i'r elfennau unigol a ddefnyddiwyd i'w greu.
Mae'r broses o hidlo ac anweddu yn gwahanu hydoddyn o'r hydoddydd (e.e. halen o hydoddiant halen craig).

Mae'r broses o gromatograffaeth yn gwahanu gwahanol lifynnau o inc.
Mae'r broses o ddistyllu yn gwahanu gwahanol hylifau yn dibynnu ar eu berwbwyntiau (e.e. gwahanu alcohol a dŵr fel y dengys yn y llun).
Mae distyllu ffracsiynol yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiant olew i echdynnu gwahanol gyfansoddion o'r olew.