 Er mwyn deall Newid Defnyddiau, mae angen cofio: Nid oes newid màs pan fo newid ffisegol (e.e. mae 1kg o ddŵr yn anweddu i wneud 1kg o stêm). Mae gan bob elfen a chyfansoddyn briodweddau ffisegol gwahanol. Mae'n bosib darganfod a yw sylwedd yn solid ar dymheredd ystafell (20oC) wrth edrych ar ei ymdoddbwynt a'i berwbwynt. Mae newid cyflwr yn digwydd heb fod newid tymheredd, ac mae'r tymheredd hwn yn wahanol i wahanol ddefnyddiau. Mae trosglwyddiad egni'n digwydd pan fo newid mewn cyflwr - rhaid cael egni gwres i ymdoddi haearn. Mae gan hydoddion wahanol hydoddeddau mewn gwahanol hydoddyddion, ac ar wahanol dymereddau. 
Rhaid gwybod sut y ffurfir
- creigiau igneaidd (crisialau magma yn oeri)
- creigiau metamorffig (newid dros amser hir o dan wasgedd uchel)
- creigiau gwaddodol (newid dros amser hir, gweddillion planhigion ac anifeiliaid yn ffurfio haenau sydd o dan wasgedd uchel).
Hindreuliad yw'r broses o dorri cerrig yn llai. Gall y broses fod yn un ffisegol, cemegol neu fiolegol.Yn ystod y gylchred greigiol, mae cerrig igneaidd, metamorffig a gwaddodol yn cael eu newid o un i'r llall yn gyson.
|