BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA3 Bioleg
TACTEG

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Cymru Dysgu
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ffotosynthesis
Gweithgaredd
Dalen Ffeithiau
Cwis
Cofia hyn

Er mwyn deall yr uned Ffotosynthesis, mae angen cofio:

  • Proses gemegol yw ffotosynthesis, sy'n digwydd mewn dail planhigion i gynhyrchu deunydd cell newydd
  • Defnyddir egni'r haul a amsugnir gan gloroffyl y celloedd palis yn ystod y broses i droi'r carbon deuocsid a'r dŵr yn glwcos ac yn ocsigen
  • Mae gan arwyneb y ddeilen haen o gelloedd sy'n amddiffyn y celloedd sy'n perfformio ffotosynthesis
  • Ochr waelod y ddeilen sy'n gyfrifol am drosglwyddo nwyon - y stomata sy'n caniatau i garbon deuocsid basio i fewn, ac i ocsigen ac anwedd dŵr basio allan
  • Mae'r dŵr yn teithio drwy wythiennau'r dail i haen isaf y ddeilen
  • Mae'r glwcos yn cael ei storio mewn cadwynau hir o startsh
  • Wrth ddefnyddio hydoddiant iodin, mae'n bosib profi ar gyfer startsh - mae startsh yn troi hydoddiant iodin brown yn ddu
  • Mae mwynau hanfodol sydd eu hangen ar blanhigion yn dod o'r pridd, ac yn cyrraedd y planhigyn drwy'r gwraidd
  • Mae arwynebedd mawr y celloedd gwreiddflew yn caniatau amsugniad rhwydd
  • Mae diffyg nitradau yn cynhyrchu planhigyn bach gwan, gyda dail sy'n melynu'n gyflym
  • Mae diffyg ffosffadau yn cynhyrchu planhigyn ifanc gyda dail porffor a gwraidd byr
  • Mae diffyg potasiwm yn cynhyrchu planhigyn gyda dail melyn a darnau marw
CA2 Bioleg

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy