CA3 Bioleg - Ffotosynthesis - L5-6 Er mwyn deall yr uned Ffotosynthesis, mae angen cofio: 
- Proses gemegol yw ffotosynthesis, sy'n digwydd mewn dail planhigion i gynhyrchu deunydd cell newydd
- Defnyddir egni'r haul a amsugnir gan gloroffyl y celloedd palis yn ystod y broses i droi'r carbon deuocsid a'r dŵr yn glwcos ac yn ocsigen
- Mae gan arwyneb y ddeilen haen o gelloedd sy'n amddiffyn y celloedd sy'n perfformio ffotosynthesis
- Ochr waelod y ddeilen sy'n gyfrifol am drosglwyddo nwyon - y stomata sy'n caniatau i garbon deuocsid basio i fewn, ac i ocsigen ac anwedd dŵr basio allan
- Mae'r dŵr yn teithio drwy wythiennau'r dail i haen isaf y ddeilen
- Mae'r glwcos yn cael ei storio mewn cadwynau hir o startsh
- Wrth ddefnyddio hydoddiant iodin, mae'n bosib profi ar gyfer startsh - mae startsh yn troi hydoddiant iodin brown yn ddu
- Mae mwynau hanfodol sydd eu hangen ar blanhigion yn dod o'r pridd, ac yn cyrraedd y planhigyn drwy'r gwraidd
- Mae arwynebedd mawr y celloedd gwreiddflew yn caniatau amsugniad rhwydd
- Mae diffyg nitradau yn cynhyrchu planhigyn bach gwan, gyda dail sy'n melynu'n gyflym
- Mae diffyg ffosffadau yn cynhyrchu planhigyn ifanc gyda dail porffor a gwraidd byr
- Mae diffyg potasiwm yn cynhyrchu planhigyn gyda dail melyn a darnau marw
|