BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA3 Bioleg
TACTEG

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Cymru Dysgu
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bwyd a maethiad
Gweithgaredd
Dalen Ffeithiau
Cwis
Cofia hyn

Er mwyn deall yr uned Bwyd a Maethiad, mae angen cofio:

Mae angen bwyd er mwyn cael egni a'r cemegau (proteinau yn bennaf) sydd eu hangen ar y corff er mwyn iddo dyfu ac atgyweirio'i hun. Mae'r egni mewn bwyd yn cael ei fesur mewn jouleau (J) neu cilojouleau (kJ).

Mae swm y bwyd sydd ei angen yn dibynnu ar oedran, màs corff (biomas) a'r gwaith sy'n cael ei wneud. Mae babi bach blwydd oed angen 3850 kJ bob dydd i gynnal màs corff a pharhau i dyfu, ond mae oedolyn sy'n nofiwr Olympaidd ac yn ymarfer yn galed angen 15,600 kJ bob dydd.

Mae diet cytbwys yn cynnwys y swm cywir o garbohydradau, proteinau, brasterau, fitaminau, halwynau mwynol, ffibr a dŵr sydd ei angen ar gorff dynol i gadw'n iach.

Mae diet anghytbwys gyda gorfwyta a diffyg ymarfer corff yn gallu arwain at gordewdra.

Bwyd a maethiadBwyd a maethiad

Bwyd a maethiad


Bwyd a maethiad

















Gallwch brofi am rai o'r bwydydd yma gan ddefnyddio profion bwyd:

Bwyd a maethiad







Mae'r system dreulio yn gyfrifol am drin y bwyd rydym yn ei fwyta nes ei fod mewn cyflwr defnyddiol i'r corff. Treulio yw'r broses o dorri lawr moleciwlau mawr o brotein, carbohydrad a braster yn foleciwlau sy'n digon fach i symud trwy wal y coluddyn i mewn i lif y gwaed. Y gwaed sydd wedyn yn cario'r bwyd hydawdd yma i bob cell yn y corff. Mae'n bwysig i ni wybod lleoliad a swyddogaeth rhannau'r system dreulio.

Bwyd a maethiad


Bwyd a maethiad









CA2 Bioleg

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy