|  |
 |  | |  |
 |  |  |  |  |  |  | Cryfder sŵn
- Mae rhywbeth sy'n dirgrynu yn gallu gwneud sŵn tawel neu sŵn uchel.
- I wneud sŵn uwch o ddrwm, rhaid i ti daro'r croen yn galetach.
- I wneud sŵn uwch o linyn, tynna'n galetach arno.

Traw
- Rydyn ni'n gallu gwneud i rywbeth sy'n dirgrynu newid traw.
- Os gwneir hyd llinyn sy'n dirgrynu yn fyrrach yna bydd y traw yn codi (bydd ganddo draw uwch).
- Os bydd y tensiwn (faint y mae'n cael ei ymestyn) mewn croen drwm sy'n dirgrynu yn llai, yna bydd y traw yn syrthio (bydd ganddo draw is).

Defnyddiau a sŵn
- Os oes defnydd megis nwy, hylif neu solid wrth ymyl y peth sy'n dirgrynu, mae'r sŵn yn gallu teithio.
- Mae'r sŵn yn teithio drwy ddefnydd. Mae'r sŵn yn gwneud i'r defnydd ddirgrynu.
- Mae sŵn yn gallu teithio'n dda iawn mewn rhai solidau, megis pibell fetel, oherwydd bod y dirgryniadau yn teithio'n rhwydd.
- Fel arfer, rydyn ni'n clywed sŵn oherwydd bod yr aer yn cario'r dirgryniadau o bethau i'n clustiau.
- Os nad oes unrhyw ddefnydd rhwng gwrthrych a'n clustiau yna dydyn ni ddim yn gallu clywed unrhyw sŵn.

| |  |  | 
|  | |  | |  |  |  |
|  | |  |
|  |
 |