|  |
 |  | |  |
 |  |  |  |  |  |  | Disgyrchiant
- Mae gan wrthrych fàs, sef cyfanswm y deunydd mae wedi ei wneud ohono. Nid grym yw màs a chaiff ei fesur mewn cilogramau.
- Rydyn ni'n mesur grymoedd mewn newtonau gan ddefnyddio mesurydd grym (a elwir yn fesurydd newton hefyd).
- Yr enw ar y grym sy'n atynnu neu'n tynnu'r ddaear a gwrthrych (megis person) tuag at ei gilydd yw disgyrchiant.
- Tyniad y blaned ar fàs unrhyw wrthrych sy'n gwneud y grym rydyn ni'n ei alw'n bwysau.
- Pwysau gwrthrych yw grym y Ddaear ar y gwrthrych.
- Mesurir pwysau mewn newtonau.
- Mae gan blanedau eraill, sêr neu leuadau ddisgyrchiant hefyd.

 - Mae'r diagram yma'n dangos disgyrchiant neu bwysau gyda saeth yn mynd i gyfeiriad y Ddaear.
Ffrithiant
- Gall grymoedd achosi i bethau gyflymu, arafu, a newid cyfeiriad.
- Mae grymoedd yn gweithredu i un cyfeiriad penodol.
- Wrth i ni geisio symud gwrthrych, yr enw ar y grym sy'n rhwystro neu'n arafu'r symudiad hwnnw yw ffrithiant.
- Os bydd y gwrthrych yn symud yn barod, yr enw ar y grym sy'n arafu'r gwrthrych ydy ffrithiant, felly mae ffrithiant yn wthiad yn erbyn gwrthrych sy'n symud.
- Grym cyffwrdd rhwng deunyddiau ydy ffrithiant.
- Math o ffrithiant rhwng aer a deunydd arall yw gwrthiant aer.
- Gall ffrithiant fod yn rym defnyddiol oherwydd ei fod yn rhwystro ein hesgidiau rhag llithro ar y ffordd wrth i ni gerdded ac mae'n rhwystro teiars ceir rhag llithro.
- Cofiwch! Nid math o ffrithiant ydy brigwth. Mae brigwth yn rym tuag at i fyny sydd i'w weld mewn nwyon a hylifau. Mae'n cael ei greu drwy fod y nwy neu'r hylif islaw yn gwthio tuag at i fyny yn fwy na'r nwy neu'r hylif sydd uwchben.
| |  |  | 
|  | |  | |  |  |  |
|  | |  |
|  |
 |