CA2 Prosesau Ffisegol - Sain

Cryfder sŵn
  • Mae rhywbeth sy'n dirgrynu yn gallu gwneud sŵn tawel neu sŵn uchel.
  • I wneud sŵn uwch o ddrwm, rhaid i ti daro'r croen yn galetach.

  • I wneud sŵn uwch o linyn, tynna'n galetach arno.
sain

Traw
  • Rydyn ni'n gallu gwneud i rywbeth sy'n dirgrynu newid traw.

  • Os gwneir hyd llinyn sy'n dirgrynu yn fyrrach yna bydd y traw yn codi (bydd ganddo draw uwch).

  • Os bydd y tensiwn (faint y mae'n cael ei ymestyn) mewn croen drwm sy'n dirgrynu yn llai, yna bydd y traw yn syrthio (bydd ganddo draw is).
sain

Defnyddiau a sŵn
  • Os oes defnydd megis nwy, hylif neu solid wrth ymyl y peth sy'n dirgrynu, mae'r sŵn yn gallu teithio.

  • Mae'r sŵn yn teithio drwy ddefnydd. Mae'r sŵn yn gwneud i'r defnydd ddirgrynu.

  • Mae sŵn yn gallu teithio'n dda iawn mewn rhai solidau, megis pibell fetel, oherwydd bod y dirgryniadau yn teithio'n rhwydd.

  • Fel arfer, rydyn ni'n clywed sŵn oherwydd bod yr aer yn cario'r dirgryniadau o bethau i'n clustiau.

  • Os nad oes unrhyw ddefnydd rhwng gwrthrych a'n clustiau yna dydyn ni ddim yn gallu clywed unrhyw sŵn.
sain


News image