Mae hen benillion yn rhan bwysig iawn o'n llenyddiaeth ni yng Nghymru. Dyma un enghraifft o hen bennill: Ar lan y môrAr lan y môr mae rhosys cochion; Ar lan y môr mae lilis gwynion; Ar lan y môr mae nghariad inne, Yn cysgu'r nos a chodi'r bore. Weithiau mae bardd yn hoffi ysgrifennu geiriau gwahanol i gerdd. Mae e'n dilyn yr un patrwm a'r gerdd wreiddiol ond yn dewis geiriau gwahanol neu doniol yn lle'r geiriau gwreiddiol. Dyma enghraifft o hyn yn y gerdd 'Ar lan y môr' gan y bardd Mihangel Morgan. Ar lan y môrAr lan y môr, mae tuniau rhydlyd Ar lan y môr mae sbwriel hefyd, Ar lan y môr mae bagiau plastig Ac olew du ar garreg lithrig. Sach Gysgu yn Llawn o Greision - MapD, Gwasg Carreg Gwalch, 2000
|