Mae hen benillion yn rhan bwysig iawn o'n llenyddiaeth ni yng Nghymru.
Dyma un enghraifft o hen bennill:
Ar lan y môrAr lan y môr mae rhosys cochion;
Ar lan y môr mae lilis gwynion;
Ar lan y môr mae nghariad inne,
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.
Weithiau mae bardd yn hoffi ysgrifennu geiriau gwahanol i gerdd. Mae e'n dilyn yr un patrwm a'r gerdd wreiddiol ond yn dewis geiriau gwahanol neu doniol yn lle'r geiriau gwreiddiol.
Dyma enghraifft o hyn yn y gerdd 'Ar lan y môr' gan y bardd Mihangel Morgan.
Ar lan y môrAr lan y môr, mae tuniau rhydlyd
Ar lan y môr mae sbwriel hefyd,
Ar lan y môr mae bagiau plastig
Ac olew du ar garreg lithrig.
Sach Gysgu yn Llawn o Greision - MapD, Gwasg Carreg Gwalch, 2000