 Darn o farddoniaeth ydy cerdd. Mae barddoniaeth yn hwyl ac yn ffordd dda o chwarae gyda geiriau!
Rydych chi'n feirdd hefyd! Efallai eich bod chi ddim wedi sylweddoli eto ond mae'n debyg eich bod chi - fel mae beirdd yn ei wneud - yn gweld rhai pethau'n debyg i bethau eraill ac yn eu disgrifio'n ofalus ac ychydig yn wahanol!

- Ydych chi erioed wedi meddwl bod brocoli yn debyg i goeden?
- Ydych chi erioed wedi meddwl bod cymylau yn debyg i ddefaid heb goesau yn arnofio yn yr awyr?
- Ydych chi erioed wedi meddwl bod dŵr sy'n tasgu lawr rhaeadr yn debyg i lefrith?
Mae lluniau fel hyn yn ein hamgylchynu trwy'r dydd a phob dydd! Edrychwch o'ch cwmpas i weld!
|