Beth ydy limrig? Dyma enghraifft o limrig gan y bardd Myrddin ap Dafydd: Armadilo ar fy mhenAeth hogyn o bentre bach Plwmp I seiclo, ond collodd ei bwmp; Wrth frecio i'w nôl o Aeth bws i'w ben-ôl o; Pan gododd, roedd ganddo fo lwmp. ( Armadilo ar fy mhen, MapD - Carreg Gwalch) Mae dipyn o hwyl i'w gael wrth ysgrifennu limrig! Penillion byrion ydyn nhw sy'n cynnwys pum llinell. Mae chwarae gyda geiriau a hiwmor yn bwysig mewn limrig. Edrychwch ar y gerdd 'Armadilo ar fy mhen' eto. Mae llinellau 1, 2 a 5 yn union yr un hyd (hynny ydy, yr un nifer o sillafau), ac mae'r mydr yr un fath hefyd, tra bod llinellau 3 a 4 yn union yr un hyd â'i gilydd ac yn fyrrach na'r gweddill. Yn aml fe ddefnyddir enw lle ar ddiwedd y llinell gyntaf, er enghraifft, Aberhosan, Japan ac ati. Yn dilyn hyn, mae limrigau'n datblygu i fod yn ddigri ac weithiau ychydig yn rhyfedd! Mae'r llinell olaf yn aml yn rhoi tro annisgwyl i'r pennill. Beth am i chi geisio llunio limrig? Beth am i chi lunio llinell gyntaf yn defnyddio enw lle o Gymru e.e. enw eich pentref/tref/ardal chi. Yna meddyliwch am gymeriad gallwch chi sôn amdano. Defnyddiwch ansoddeiriau i'w ddisgrifio. Tybed beth fydd y tro yn y llinell olaf? Dyma'r llinell gyntaf fel enghraifft i chi: Aeth athro o ysgol Llansaint ............................................ .......................... .......................... ............................................... Cofiwch ddarllen eich limrig i weddill y dosbarth. Cofiwch fwynhau!
|