| Anelu at y Gemau Olympaidd: Gareth Warburton Cliciwch ar wefan Cymdeithas Athletau Cymru (linc ar y dde) i ddod o hyd i'ch clwb athletau lleol. Mae Diana Ray o Landrillo yn Rhos yn argymell bod pawb yn ystyried cymryd rhan mewn athletau: "Rydw i'n hyfforddi adran iau Clwb Athletau Bae Colwyn. Mi wnes i ddechrau pan oedd y plant yn iau ac hoffi rhedeg. "Mae'r clwb yn croesawu pawb - o blant wyth oed i oedolion dros 60. Mae rhai o'r plant yn gwneud gwaith trac a thraws gwlad a'r rhai hŷn yn rhedeg ffordd a thraws gwlad. "Mae ambell riant yn ein ffonio ac yn dweud bod eu plentyn nhw'n athletwr gwych, ac mae hynny'n grêt, ond does dim rhaid iddyn nhw fod yn dda. Rydyn ni'n annog unrhyw un i ddod draw, dod yn ffit a mwynhau chwaraeon - dydi gallu ddim o anghenraid yn bwysig. Yn syml, mae'n ffordd wych o gadw'n ffit a chael hwyl. "Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn athletau cystadleuol, yna ewch i weld beth sydd gan eich clybiau lleol chi i'w gynnig. Mae gwahanol glybiau yn arbenigo mewn gwahanol ddisgyblaethau, ac yn gysylltiedig â gwahanol gynghreiriau gan gynnwys Cynghrair Iau/Hŷn Cymru, Cynghrair yr Athletwyr Ifanc (Young Athletes League - UKA) a Chynghrair Iau Prydain (National Junior League)." A does dim yn well na dechrau yn ifanc yn ôl Elwyn Jones o Glwb Athletau Gogledd Gwynedd: "Mae athletau yn rhan o fenter Campau'r Ddraig, felly mae ysgolion cynradd yn cael help i sefydlu clwb athletau (ewch i weld ein tudalen am Hybu chwaraeon). "Mae disgyblion ysgolion uwchradd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar lefel sirol ac yn gallu mynd ymlaen i gynrychioli Eryri fel rhanbarth, ac yna rhedeg dros dîm Cymru." Mae Will Arrowsmith, swyddog datblygu athletau gogledd Cymru yn gallu ymweld â'ch ysgol i helpu i hyfforddi disgyblion ym maes athletau: "Rydyn ni hefyd yn bwriadu cynnal cynllun o'r enw Star Track ar gyfer y flwyddyn nesa'. Bydd athletwyr ifanc, dim ots pa mor brofiadol ydyn nhw, yn gallu dod draw i'w trac athletau lleol i gael hyfforddiant technegol neu gael cyflwyniad i chwaraeon trac neu faes. Bydd y sesiynau yn para tridiau ac yn cael eu cynnal mewn lleoliadau yn y dair sir - felly cadwch lygad ar y wefan am ragor o wybodaeth."
 |