Rhedwraig a ddaeth i'r amlwg ym marathon Llundain.
Un o ferched Caergybi, lle cafodd ei geni a'i magu, ydy Tracey Morris. Mae rhedeg yn ei gwaed gyda'i thad, Gwilym, yn rhedwr brwd yn ei ddydd a'i chwaer, Kelly, yn arbenigo mewn rasio dros y clwydi ac yn astudio gwyddoniaeth chwaraeon yn Athrofa Addysg Uwch, Wrecsam.Daeth ei gallu fel athletwraig i'r amlwg tra roedd hi yn yr ysgol uwchradd yng Nghaergybi. Hi oedd capten sgwad merched Cymru tra roedd y Colin Jackson ifanc yn gapten y bechgyn. Roedd yn aelod o glwb Striders Cybi cyn mynd i astudio i fod yn optegydd yng Ngholeg Bradford ac ymgartrefodd yn Leeds.
Wnaeth hi ddim dychwelyd at redeg tan 2003 pan benderfynodd ei bod am gadw'n heini ac ymuno â chlwb y Valley Striders yn Leeds.
Ym mis Tachwedd 2003 penderfynodd gystadlu mewn ras 10 cilomedr yn y Fflint heb sylweddoli mai ras bencampwriaeth Cymru oedd hi. Fe enillodd y ras honno a mynd ymlaen i gynrychioli Cymru mewn ras traws gwlad yng Nghaerdydd yr un mis.
Fis yn ddiweddarach, cystadlodd dros Gymru mewn ras 10 cilomedr yn Leeds. Roedd hi wedi ei gwahodd i gymryd lle Paula Radcliffe yn y ras ond gwrthododd Tracey redeg yn nghrys Lloegr.
Fe redodd ym marathon Llundain chwe mlynedd yn ôl ond dim ond am hwyl. Ar 18 Ebrill 2004, croesodd llinell derfyn y marathon hwnnw awr yn gynt na'i hamser blaenorol gan redeg y 26 milltir mewn dwy awr, 33 munud a 52 eiliad. Daeth yn ddegfed a hi oedd y ferch gyntaf o Brydain i groesi'r llinell, a hynny dri munud yn gynt na'r amser gofynnol i fod yn deilwng ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Y bore wedyn cafodd alwad i ymuno â thîm Olympaidd Prydain yn Athen fis Awst 2004.
"Mae'n anhygoel, mae fel breuddwyd," meddai mewn cyfweliad gydag adran Chwaraeon Cymru'r Byd ar y pryd.
"Bydd rhaid i mi ofyn i fy mos am amser oddi ar y gwaith rwan.
"Roedd yr amser rhagbrofol yng nghefn fy meddwl pan oeddwn yn dechrau'r ras, ond nid wyf erioed wedi rasio mewn Marathon o'r blaen ac felly nid oeddwn yn siwr beth oeddwn yn gallu ei gyflawni."
Yn y marathon Olympaidd yn Athen ddiwedd Awst 2004, y methodd y ffefryn Paula Radcliffe a'i gwblhau, fe ddaeth Tracey yn nawfed ar hugain gan gwblhau'r cwrs mewn amser o 2 awr a 41 munud.
Cafodd ei dewis i ymuno â charfan Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ym Melbourne 2006 lle daeth o fewn trwch blewyn i ennill medal pan ddaeth yn bedwerydd yn ras marathon y merched.