"Clwb rhedeg yw Harriers Abergele gyda'i phencadlys yng nghanolfan Hamdden y dref.
"Ffurfiwyd y clwb ym Mai 1986, er yr oedd Harriers Abergele wedi bodoli 50 mlynedd ynghynt cyn diflannu.
"Mae'r clwb wedi tyfu'n raddol dros y blynyddoedd ac mae bellach dros 70 yn aelodau. "Er mai clwb rhedwyr ffordd yw'r Harriers yn bennaf, mae gennym adran Traws Gwlad gref ac mae sawl aelod yn cymryd rhan mewn rasys mynydd.
"Ar hyn o bryd mae gan y clwb dimau dynion a marched yn ail adran y Borders Road Running League, mae tîm y dynionyn cystadlu yn adran gyntaf y Majestic Travel North Wales Cross Country League, gyda'r merched yn yr ail adran.
"Mae nifer o aelodau'r clwb yn cymryd rhan yn Marathon Llundain bob blwyddyn, a chynhelir penwythnos o ddigwyddiadau cymdeithasol. "Mae'r clwb hefyd yn cynnal noson gymdeithasol ar nos Fercher olaf y mis yn dilyn y sesiwn ymarfer.
"Cynhelir yr ymarfer swyddogol ar nos Fercher o 7pm yng Nghanolfan Hamdden Abergele tra bod sesiynau ymarfer 'answyddogol' yn cael eu trefnu ar gyfer nosweithiau Gwener a boreau Sul.
"Mae croeso i redwyr o wahanol alluoedd ymuno gyda'r clwb, hyd yn oed os nad ydynt yn bwriadu cystadlu ac ond eisiau rhedeg yn gymdeithasol."
 |