"Mi wnes i gychwyn gwneud athletau yn y chweched dosbarth. Mi roeddwn yn chwarae pêl-droed a rygbi cyn hynny ac roeddwn wastad yn eithaf sydyn ac yn chwarae ar yr asgell ac roedd yn naturiol i mi symud ymlaen i athletau.
Roeddwn yn hyfforddi ar drac athletau Treborth ym Mangor cyn symud ymlaen i'r brifysgol yng Nghaerdydd. Roeddwn wastad eisiau mynd i UWIC i astudio sports management, mae'n goleg sy'n rhoi pwyslais ar chwaraeon.
Mi wnes i drïo trawsgwlad a sbrintio ond dwi'n siwtio'r 400m orau. Ond mae'n galed - 'da chi bron iawn yn cadw ar top speed yr holl ffordd rownd.
Mi wnes i ffeindio bywyd myfyriwr yn anodd yn y flwyddyn gyntaf - gwneud ffrindiau, mynd allan i yfed - joio gormod efallai. Ond ar ôl hynny, sylweddolais nad oeddwn yn gallu gwneud y ddau ac roedd rhaid gwneud dewis. Dwi ddim yn yfed llawer rŵan ac yn canolbwyntio ar athletau, ac mae yna griw mawr ohonom felly mae'r ochr gymdeithasol yn reit dda.
Dwi wedi cystadlu ledled Ewrop - Norwy, Ffrainc, Sbaen, Slofenia. Dwi am wneud mwy o rasys yn Ewrop yr haf yma i geisio ennill ychydig o wobrau ariannol. Rŵan mod i wedi gadael y brifysgol dwi'n cael ychydig o gymorth gan y loteri a hefyd gan fy nhad ond mae'n rhaid i mi gychwyn gwneud mwy.
Dwi'n sicr yn gwneud mwy o hyfforddi rŵan. Yn yr ysgol dim ond ryw dair noson yr wythnos ro'n i'n ei wneud, wedyn bob dydd yn y brifysgol ac erbyn hyn dwywaith y diwrnod, gydag un diwrnod i ffwrdd yr wythnos. Dwi yn y gampfa neu'n rhedeg ar y trac neu i fyny elltydd, sy'n hyfforddiant da!
Fy mreuddwyd mawr yw cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Beijing yn 2008, a hefyd yn Llundain yn 2012 gobeithio. Yn gyntaf, rhaid i mi gael i mewn i dîm ras gyfnewid 4 x 400m Prydain ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd yn 2007. Dwi yn y chwech uchaf ym Mhrydain ac mae angen sgwad o chwech yn y ras gyfnewid felly mae gen i gyfle reit dda. Os ga i fynd, bydd 'na hyfforddiant yn yr un base camp ym Macaw lle byddan nhw'n mynd cyn Gemau Olympaidd 2008.
Rhaid i mi wella fy amser o ryw 0.3 eiliad er mwyn cael cystadlu fel unigolyn.
Y peth pwysicaf mewn athletau yw eich bod chi eich hun eisiau ei wneud o. Dydych chi ddim yn rhan o dîm fel yn rygbi neu bêl-droed - dim ond y chi sy'n gallu gweithio i gael llwyddiant ond pan rydych chi'n llwyddiannus, mae'n lot mwy boddhaol.
 |