| Mae'r ras yn cael ei threfnu bob gaeaf gan Glwb Athletau Bae Colwyn ac roedd ein camera ni yno ar 22 Ionawr 2005 i ddal rhai o'r rhedwyr yn croesi'r llinell - gan gynnwys yr enillydd, Jamie Lewis o glwb Swansea Harriers a orffennodd y ras mewn 32 munud a 21 eiliad. Mae rhagor o luniau o'r diwrnod ar wefan Saesneg Where I Live ac ar wefan Clwb Athletau Bae Colwyn, sydd hefyd yn rhestru'r canlyniadau llawn. (Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol)
 |