| Cynhaliwyd y
cyngerdd er budd Cymdeithas Atal
Clefyd Siwgr gyda'r Côr yn rhoi eu gwasanaeth yn gwbl am ddim er
budd y gymdeithas. Arweiniwyd y
Côr gan James Griffiths gyda Lowri
Roberts Williams yn cyfeilio. Cafwyd unawd gan y baswr Bob
Thomas a hefyd gan Gareth
Hughes ar yr euphonium gyda
James Griffiths yn cyfeilio. Ar ddydd Sadwrn, 1 Mai, canodd y
Côr mewn priodas yn Eglwys
Babyddol St lago, Bangor. Cafwyd
sawl eitem cyn dechrau'r
gwasanaeth ac yn ystod yr
arwyddo.
Cafwyd unawd gan
Norman Evans gyda Lowri Roberts
Williams yn cyfeilio. Ar nos Fawrth, 18 Mai, canodd y
Côr o flaen cynulleidfa fawr, fel arfer, yn Eglwys Sant Ioan,
Llandudno.
Bydd y Côr yn canu mewn o leiaf 4 cyngerdd bob
blwyddyn yma a chael derbyniad gwych bob tro. Cafwyd unawd gan
Bob Thomas gyda Gwilym Lewis
yn cyfeilio a hefyd cafwyd unawd
organ gan James Griffiths,
Arweinydd y Côr. Cyfeilydd y Côr
oedd Lowri Roberts Williams. Ar ôl y cyngerdd cafwyd cyfarfod
byr pan drosglwyddodd Dafydd
Morris, o Gwmni Brodyr Hogan,
gyflenwad o ffeiliau i'r Côr. Mae'r
rhain yn drawiadol iawn gydag
arfbais y Côr yn amlwg iawn
arnynt. Diolch i'r Brodyr Hogan am
noddi'r Côr fel hyn - hogiau Bangor
yn cefnogi Côr Bangor! Llais Ogwan
 |