Tydio erioed wedi bod mewn gêm bêl-droed, a wyddoch chi be? Fe enillodd wobr gyda chwmni McDonalds a chael ei ddewis yn un o 22 o blant a gerddai fel mascots allan ar y cae gyda'r pêl-droedwyr, yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2006, a gynhaliwyd yn yr Allianz Arena ym Munich, Yr Almaen ar 5 Mehefin. Timau Ffrainc a Portiwgal oedd yn chwarae y diwrnod hwnnw ac enillodd Ffrainc 1-0. Daeth Cameron ar y cae gyda thîm Ffrainc a gafaelai yn llaw Claude Makelele wrth i'r Anthem Genedlaethol gael ei chanu. Roedd 59,000 o gefnogwyr pêl-droed yn yr arena y diwrnod hwnnw.  Wrth reswm roedd Cameron wedi cyffroi yn llwyr, yn enwedig pan gafodd hefyd gyfarfod a'r enwog Geoff Hurst, arwr tîm pêl-droed Lloegr yn 1966. Braint Roedd hi'n fraint medda fo i gael cerdded ar y cae gyda phêl-droedwyr megis Zinedine Zidane, Patrick Viera a Thierry Henry. A chan ei fod yn gefnogwr tîm Manchester United edrychai mlaen i gael cyfarfod â Louis Saha. Profiad bythgofiadwy Teithiodd Cameron i'r Almaen gyda'i dad Paul a oedd wedi cynhyrfu llawn cymaint a'i fab! Profiad bythgofiadwy a phrofiad anhygoel i fachgen bach 7 oed o Rhiwlas.
 |