| A faint ohonynt sydd wedi protestio ar ôl mentro allan a glydwch eu cerbydau - "Ew, ma hi'n oer!!"? Ydi, mae hi YN oer, a dyma sydd y tu ôl i greu golygfa wirioneddol hyfryd yn y Dyffryn. Golygfa hardd - a pheryglus. Mae'r temtasiwn yna a hyd i fentro ar y rhew, mentro gam neu ddau ymhellach na'r cyfaill sy'n crafangu am y lan gerllaw, mentro ymhellach er mwyn cyrraedd y rhew caletaf, mentro er mwyn gallu datgan ein bod wedi bod yna, a sefyll ar y llyn.
Ond, y mae peryglon a dan yr wyneb sy'n ymddangos mor gadarn. Ni ŵyr neb i sicrwydd drwch yr iâ, na pha mor fregus ydyw. Pwyll piau hi felly - rhywbeth i'w barchu ydi natur.
 |