| Mae'n flynyddoedd ers i mi fod i mewn ym mhafiliwn yr Eisteddfod ar gyfer un o'r Seremonïau mawr. Felly, eleni, a hithau'n dipyn o dywydd tu allan, dyma benderfynu y byddwn yn ploncio fy mhen ôl ar gyfer Seremoni y Cadeirio. Cefais sedd ochr yn y Pafiliwn, a chyn pen dim roedd pob sedd o'm cwmpas yn llawn, a hen edrych ymlaen at glywed y feirniadaeth yn cael ei thraddodi'n ddi-bapur gan yr anfarwol Dic Jones. 'Gweno' ddaeth i'r brig, ac yn ôl Dic byddai ef wedi gwirioni o fod wedi sgwennu'r awdl hon. Pwy fyddai'r Prifardd y bu cymaint o ganmol iddo tybed? Pawb ar flaen eu seddau i sain y Cyrn Gwlad. Yna distawrwydd, a chlapio uchel o dueddau cefn y Pafiliwn, a phawb ar eu traed. 'Pwy ydio?' o'm sedd ochr. Edrychais ddwywaith. la, Gwynfor ap Ifor, Sling! Roedd hen neidio a gweiddi a chlapio a rhai o'n cwmpas yn holi 'Da'ch chi yn ei nabod o?' (yn Saesneg, Abertawe, a dweud y gwir), 'Ei nabod o, wel ydan siŵr, tydio'n byw yn ein pentra ni!' Toes ond un gair i'w ddweud wrtho - Gwych Gwynfor - Rwyt bellach yn 0riel Anfarwolion y Prifeirdd! Diolch am fod yn rhan o'r Seremoni Gwenda
 |