Trefnwyd y prosiect gan Gyngor Cymuned Bethesda mewn partneriaeth a chynghorau lleol, tirfeddianwyr, trigolion lleol ac ysgolion. Roedd Swyddog Prosiect y Comisiwn Coedwigo, Mr Bob Griffiths, wedi'i benodi'n arbennig i sicrhau bod yr holl gynlluniau yn mynd rhagddynt yn esmwyth. Dywedodd Mr Griffiths fod y prosiect yn ased gwirioneddol i Ddyffryn Ogwen, aec y byddai mwy o bobl yn ymweld a'r goedlan, a gwerthfawrogi hyfrydwch natur o'u hamgylch. Ariannwyd y fenter ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd (Amcan Un) a'r Cynulliad Cenedlaethol. Dywedodd Mr Aled Parry, clerc y Cyngor Cymuned lleol, fod yr hen lwybrau wedi'u cau, a'r goedlan bellach wedi'i hailagor - yn lle llawer mwy diogel nag ydoedd gynt.
 |