| Bu'r cyfarwyddwr ffilm, Ken Russell, sy'n enwog am ffilmiau fel Women in Love ac Altered States yn sôn am ei yrfa ar ddiwrnod cynta'r gynhadledd ddydd Gwener. Ar y nos Sadwrn mae'r nofelydd o Drelawnyd, Emyr Humphreys, yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad ym maes hyrwyddo'r cyfryngau torfol yng Nghymru, gan dderbyn Gwobr Siân Phillips. Nod prosiect Cyfrwng yw cyflwyno ymchwil a thrafodaeth ysgolheigaidd ar Gymru a'r cyfryngau, ac ar y cyfryngau yng Nghymru - yn bennaf ffilm, teledu, radio, cyfryngau newydd, newyddiaduraeth ac astudiaethau perfformio a theatr. Bydd yn gwneud hyn drwy gyhoeddi cyfnodolyn blynyddol, cynhadledd deithiol a gwefan - www.cyfrwng.com - sy'n cynnwys holl fanylion y fforwm. Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni dros dridiau rhwng 16 ac 18 Ebrill. Ymhlith y sesiynau eraill mae trafodaeth ar ddiddordeb diweddar cyfarwyddwyr Bollywood yng Nghymru fel lleoliad i ffilmiau, darlith gan yr Athro Kevin Williams ar sefyllfa'r cyfryngau yng Nghymru a sesiwn drafod i ddathlu'r ffilm Zulu yng nghwmni gweddw yr actor Hollywood o'r Cymoedd, Syr Stanley Baker, sef y Fonesig Ellen Baker. Bydd y ffilm hefyd yn cael ei dangos ar y sgrîn fawr. Mwy am y gynhadleddMwy am wobrwyo Emyr HumphreysMwy am ymweliad Ken Russell
 |