 |  | Cynhadledd Cyfrwng 2004 7 Ebril 2004 Cymru a'r cyfryngau dan sylw Cyfrwng, sef fforwm newydd gyffrous ar gyfer trafod Cymru yn y cyfryngau a Chymru a'r cyfryngau. Cynhelir cynhadledd gyntaf Cyfrwng ym Mhrifysgol Cymru, Bangor rhwng 16-18 Ebrill 2004. |  |  |
 | Cynllun cyffrous yw Cyfrwng ac iddo dair elfen, sef cyfnodolyn amlddisgyblaethol newydd a gaiff ei gyhoeddi'n flynyddol gan Wasg Prifysgol Cymru, cynhadledd deithiol a gynhelir bob mis Ebrill, a gwefan fywiog, www.cyfrwng.com. Nod Cyfrwng, trwy gyfrwng y tair elfen hyn, yw darparu fforwm ar gyfer cyflwyno ymchwil a thrafodaeth ysgolheigaidd ar Gymru a'r cyfryngau, ac ar y cyfryngau yng Nghymru, yn bennaf ffilm, teledu, radio, cyfryngau newydd, newyddiaduraeth ac astudiaethau perfformio a theatr. At hyn, bydd Cyfrwng yn pontio'r byd addysg cyfryngau a'r diwydiant cyfryngau. Prif atyniad y gynhadledd fydd cyfle prin i fod yng nghwmni'r cyfarwyddwr adnabyddus Ken Russell (datganiad llawn i'r wasg ar gael). Ymhlith sesiynau atyniadol eraill y gynhadledd eleni y mae darlith gan yr Athro Kevin Williams ar sefyllfa'r cyfryngau yng Nghymru, trafodaeth ar ddiddordeb diweddar Bollywood yng Nghymru fel lleoliad ffilm, darlith ar y chwyldro digidol gan y cynhyrchydd o Efrog Newydd, Michael Rosenblum, sesiwn drafod fywiog a fydd yn dathlu'r ffilm Zulu yng nghwmni gweddw Syr Stanley Baker, y Fonesig Ellen Baker, ac a fydd yn cynnwys dangosiad arbennig o'r ffilm yn ei phriod le, sef ar y sgrin fawr, ac yn ogystal, gyflwyniadau amrywiol ar gysylltiad perfformio â chof, lleoliad a hiraeth gan Yr Athro Mike Pearson, Dr Lisa Lewis a Judy Durey o Perth, Awstralia. Am wybodaeth ynghylch y digwyddiadau hyn, ynghyd â'r sesiynau a'r chyflwyniadau diddorol eraill sy'n rhan o'r gynhadledd, gweler rhaglen Cynhadledd Cyfrwng 2004 ar y wefan. Bydd y gynhadledd yn dridiau cyffrous o drin a thrafod a dathlu'r cyfryngau yng Nghymru yng nghwmni nifer o arbenigwyr rhyngwladol. Yn ystod y gynhadledd, ar brynhawn dydd Sadwrn 17 Ebrill, cynhelir lansiad cyfnodolyn dwyieithog a rhyngddisgyblaethol newydd ac arloesol Cyfrwng, sef Cyfrwng: Media Wales Journal - Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru. Dyma gyfnodolyn y bu galw mawr amdano yng Nghymru. Y mae rhifyn cyntaf y cyfnodolyn, dan y thema 'Cymru a'r Byd', yn cynnwys: 'Stanley Baker's 'Welsh Western': Masculinity and Cultural Identity in Zulu' gan Robert Shail, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan; 'Dechreuadau - Y Gymraeg a'r Dechnoleg Newydd' ('Beginnings: New Media and the Welsh Language') gan Grahame Davies, BBC Cymru'r Byd; 'Representing the 'Celtic Thing': German newspapers, tourist board literature and discourses of Celticity' gan Sanna Inthorn, Prifysgol Portsmouth; 'Dehongli Rhyfel Cartref America - Llun, Llên a Llwch' ('Interpreting the American Civil War') gan Jerry Hunter, Prifysgol Cymru Bangor ac Ifor ap Glyn, Cwmni Da; 'A Home for Refugees: Writing Wales Differently' gan John Jewell, Prifysgol Caerdydd; 'Roedd y stori yn ddigon ynddi'i hun': Portread o Michael Harvey, Storïwr' ('The story was sufficient': A Profile of Michael Harvey, Storyteller') gan Michael Wilson, Prifysgol Morgannwg.Prifysgol Cymru, Bangor
 |  |  |  |
Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.
|
|

|
|