| Gwobr yw hon a gyflwynir i unigolyn sydd â chysylltiadau â byd academaidd y cyfryngau ynghyd â'r diwydiant cyfryngau - i gydnabod cyfraniad arbennig ym maes hyrwyddo'r cyfryngau torfol yng Nghymru. Cyflwynir y wobr gan Cyfrwng, fforwm newydd ar gyfer trafod y cyfryngau yng Nghymru dan ofal aelodau o fyd academaidd y cyfryngau a diwydiant y cyfryngau. "Rydym yn hynod falch fod Siân Phillips CBE wedi benthyg ei henw i'r anrhydedd hon. Mae Siân wedi dilyn gyrfa hynod lwyddiannus yn y cyfryngau - o fyd y radio i'r llwyfan, ac o'r sgrîn fawr i'r sgrîn fach - ac y mae hefyd yn un sy'n gefnogol i'r byd academaidd, felly y mae'n fraint o'r mwyaf ein bod yn medru cyflwyno'r wobr hon yn ei henw", meddai Dr Gwenno Ffrancon o Brifysgol Cymru, Bangor. Ers ei dyddiau cynnar fel cyflwynydd gyda'r BBC yng Nghaerdydd, y mae ei gwaith dros y blynyddoedd wedi ennill bri mawr yn fyd-eang. Ymhlith uchafbwyntiau ei gyrfa nodedig y mae ei pherfformiad fel Livia yn y cynhyrchiad teledu o I, Claudius, ei rhan fel yr Hybarch Fam Gaius Helen Mohiam yn ffilm fentrus David Lynch, Dune, ei phortread cignoeth o fam yn gwallgofi yn ffilm Marc Evans, House of America, a'i theyrnged wefreiddiol, ar ffurf sioe lwyfan un-wraig, i Marlene Dietrich - perfformiad a enillodd Wobr Olivier iddi. Meddai Siân Phillips pan glywodd mai Emyr Humphreys fydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips 2004: "Rwyf wrth fy modd mai Emyr sydd wedi ei enwebu i dderbyn y wobr gyntaf; y mae arnaf ddyled bersonol fawr iddo". Gweithiodd y ddau droeon gyda'i gilydd ar gynyrchiadau'r BBC - yn eu plith ddrama Saunders Lewis, Siwan, ym 1960. "O gofio'r telediad gwych o Siwan, braf yw cael y cyfle i gysylltu enwau Siân Phillips ac Emyr Humphreys unwaith eto. Mae hon yn wobr anrhydeddus i lunyddiaeth a llenyddiaeth. Hir oes i'r bartneriaeth a'r gwobrwyo," meddai John Hefin, Cadeirydd Cyfrwng. Y gof adnabyddus Ann Catrin Evans a gomisiynwyd i ddylunio a chreu tlws Gwobr Siân Phillips - gwaith trawiadol iawn wedi ei lunio o haearn a llechen. Cyflwynwyd y wobr i Emyr Humphreys gan Yr Athro R. Merfyn Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Bangor, Llywodraethwr Cenedlaethol Cymru y BBC a Chadeirydd Cyngor Darlledu Cymru, a hynny yn ystod cinio Cynhadledd Cyfrwng 2004, a gynhaliwyd nos Sadwrn 17 Ebrill 2004. Dathlwyd gyrfa Emyr Humphreys trwy ddangos clipiau o'i waith cyfryngol a darllenwyd cyfarchiad o longyfarch gan Siân Phillips. Emyr Humphreys yn Oriel yr EnwogionPrifysgol Bangor
 |