Un o nofelwyr mwyaf blaenllaw Cymru sy'n ysgrifennu yn Saesneg.
Er iddo gael ei eni ym Mhrestatyn, mae'r nofelydd, hanesydd, dramodydd a'r bardd hwn bellach yn byw ar Ynys Môn ers nifer o flynyddoedd.Magwyd Emyr Humphreys ar aelwyd ddi-Gymraeg ond, yn dilyn helynt yr Ysgol Fomio ym Mhen Llŷn yn 1936, aeth ati i ddysgu Cymraeg a deffrowyd ei ddiddordeb yn niwylliant Cymru. Er hyn, yn Saesneg yr ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i lyfrau.
Aeth i'r Coleg yn Aberystwyth i astudio Hanes ac ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol. Anfonwyd ef i weithio ar ffermydd yn Sir Benfro a gogledd Cymru yn gyntaf. Yna'n ddiweddarach aeth i weithio i'r Dwyrain Canol a'r Eidal fel un o swyddogion Mudiad Achub y Plant dan faner y Cenhedloedd Unedig.
Bu'n athro ysgol am gyfnod ym Mhwllheli, cyn ymuno â'r BBC fel cynhyrchydd drama yn 1955. Bu'n gyfrifol am gynhyrchu, yn y Gymraeg a'r Saseneg, rai o weithiau Saunders Lewis a John Gwilym Jones. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fe'i penodwyd yn ddarlithydd drama yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, ond rhoddodd y gorau i hynny hefyd yn 1972 a throi at ysgrifennu yn llawn amser.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Little Kingdom yn 1946. Enillodd Wobr Somerset Maugham yn 1958 am ei nofel Hear and Forgive a gwobr Hawthornden yn 1958 am A Toy Epic. Yn ei gyfrol The Taliesin Tradition mae Emyr Humphreys yn trafod sut mae llenyddiaeth wedi mowldio hunaniaeth Gymreig a dylanwad pobl fel y bardd cynnar Taliesin, Iolo Morgannwg, Lloyd George a Saunders Lewis ar yr hunaniaeth honno.
Yn ystod y 1970au hefyd cynhyrchodd amryw raglenni dogfen ar gyfer teledu i gwmni HTV a chydweithiodd am y tro cyntaf â'i fab, Siôn, ar ffilm ar gyfer S4C, sef y Gosb yn 1983. Ac yntau'n ymgyrchwr brwd ers degawdau dros sianel deledu Gymraeg i Gymru, fe'i carcharwyd am gyfnod byr ym 1973 am wrthod talu ei drwydded deledu.
Mae bellach yn byw yn Llanfairpwll ac yn dal i sgwennu ac yntau dros ei bedwar ugain oed. Mae ei gyfrol ddiweddaraf, Old People are a Problem, yn gasgliad o storiau sy'n trafod henaint ac wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2004. Mae'r straeon hyn yn adlewyrchu cenhedlaeth a welodd o leiaf un rhyfel byd, y rhyfel oer, cwymp yr ymerodraethau mawr a datblygiadau technolegol enfawr.
Cyflwyno Gwobr Siân Phillips i Emyr HumphreysDiolch i Gwen Robyns o Tokoroa, Seland Newydd a Leslie Roberts o Silver Springs, Florida am awgrymu Emyr Humphreys.