
 |  | Un dydd ar y tro
Rhywbeth i'w ddathlu bob dydd meddai nofelydd wrth drafod pobl hen
Mawrth 2003
| Yn ôl un o nofelwyr mwyaf blaenllaw Cymru mae pobol hen yn broblem.
Teitl llyfr diweddaraf Emyr Humphreys yw Old People are a Problem ac mewn noson a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru i ddathlu Diwrnod y Llyfr bydd yn egluro beth yn union mae'n ei olygu wrth hynny.
Bydd yr awdur - sy'n 83 oed - yn edrych yn ôl dros hanner canrif ei yrfa yng nghwmni ei gyfaill a'i gyd-weithiwr M. Wynn Thomas, Athro Saesneg Prifysgol Abertawe, yn Llyfrgell yr Wyddgrug nos Fawrth, Mawrth 4, diwrnod cyhoeddi y llyfr sy'n mynd i'r afael â'r broses o heneiddio.
Y cyhoeddwyr yw Seren Books.
"Mae Emyr wedi ysgrifennu am bobl oedrannus erioed, hyd yn oed yn The House of Baal a ysgrifennodd cyn belled yn ôl â 1963. Bydd yn ddiddorol gweld sut y mae ei agwedd wedi newid erbyn hyn ac yntau'n edrych ar fywyd pobl oedrannus o'r tu mewn, fel petai," meddai'r Athro Thomas.
Rhywbeth gwahanol bob dydd Mae Emyr Humphreys o'r farn fod pobl yn cael golwg wahanol ar bethau bob dydd.
"Bob tro y byddwch yn gwrando ar gerddoriaeth, yn edrych ar waith celf neu'n ailddarllen darn o lenyddiaeth, nid ydych yn gweld nac yn clywed yn union yr un peth ag o'r blaen. Mae'n brofiad newydd, yn bleser newydd, ac felly y dylai fod.
"Mae llyfrau'n ganolog i wareiddiad. Maen nhw'n eithriadol o bwysig. Credaf fod darllen ac ysgrifennu'n cyfoethogi ein bodolaeth ac rwy'n edrych ymlaen at gael siarad â Wyn am eu pwysigrwydd fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru," meddai.
Rhagoriaeth Emyr Humphreys Dywedodd Mick Felton o Seren mae un o ragoriaethau Emyr Humphreys fel nofelydd a storiwr yw fod ei ddawn storiol yn addas ar gyfer y darllenydd cyffredin ond yn cynnwys hefyd yr hyn a alwodd yn "isleisiau sy'n ein herio ac yn peri inni feddwl gan roi dyfnder i'r gwaith."
Ychwanegodd: "Old People are a Problem yw'r pedwerydd llyfr gwreiddiol gan Humphreys i Seren ei gyhoeddi, ein seithfed cyfrol ganddo i gyd, a'r orau eto."
Yn nofelydd, bardd a dramodydd, mae Emyr Humphreys yn cael ei gyfrif yn aml yn "brif ddehonglydd bywyd Cymru yn Saesneg" ac mae'n awdur 21 o nofelau, pedwar casgliad o farddoniaeth a nifer o ddramâu teledu.
Diwrnod y llyfr: Bydd cannoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru, mewn ysgolion, llyfrgelloedd, stiwdios teledu a siopau llyfrau yn ogystal ag mewn siopau, swyddfeydd a gweithleoedd eraill i ddathlu Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 6.
Mae'n ddiwrnod sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd a'r llynedd ymunodd dros 30 o wledydd yn y dathliadau.
Y nod yw helpu pawb - o bob oed - i fwynhau llyfrau a darllen ac ymhlith y rhai sy'n hyrwyddo'r diwrnod yng Nghymru y mae Ryan Giggs, Aled Jones a Gaby Logan
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|