BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Ken RussellY cyfarwyddwr Ken Russel yn ymweld â Bangor
1 Ebrill 2004
Bydd y cyfarwyddwr ffilm byd-enwog, Ken Russell, yn ymweld â Bangor ar gyfer Cynhadledd Cyfrwng Prifysgol Cymru 16-18 Ebrill 2004
Bydd y cyfarwyddwr ffilm yn mynychu cynhadledd gyntaf Cyfrwng ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, 16-18 Ebrill, am dridiau cyffrous o drin a thrafod a dathlu'r cyfryngau yng Nghymru yng nghwmni nifer o arbenigwyr rhyngwladol.

"Y mae Ken Russell yn ffigwr adnabyddus a hynod liwgar o fyd y cyfryngau, ac fe gaiff y clod am lunio rhai o ffilmiau a chynyrchiadau teledu gorau'r ugeinfed ganrif," esboniodd Dr Gwenno Ffrancon, darlithydd ffilm yn Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau y Brifysgol.

"Nodweddir ei weithiau gan wreiddioldeb trawiadol, symboliaeth ergydiol, ymdriniaethau dadleuol a pherfformiadau theatraidd hynod ddramatig. Ymhlith ei ffilmiau enwocaf ceir The Devils, Women in Love, Mahler, Savage Messiah, Altered States a Crimes of Passion, ac ymhlith ei weithiau adnabyddus ar gyfer y teledu y mae Elgar, Song of Summer a Lady Chatterley. Dyma gyfarwyddwr sydd wrth ei fodd yn synnu a gwefreiddio ei gynulleidfa â'i ddelweddau eithafol a chythryblus", ychwanegodd.

Derbyniodd Russell ei swydd gyntaf ym myd y cyfryngau fel gwneuthurwr ffilmiau ar y gyfres gelf Monitor dan arweiniad y Cymro, Huw Wheldon. Enillodd ei ffilm nodwedd ar y cyfansoddwr Elgar (1962) boblogrwydd aruthrol, ac ym marn llawer, bu'n gyfrifol am ailgynnau'r diddordeb yng ngerddoriaeth y cyfansoddwr.

Ym 1969 cyfarwyddodd Russell, ar gyfer y sgrin fawr y tro hwn, y ffilm Women in Love. Dyma ei lwyddiant cyntaf ar raddfa fawr, a mynych y cyfeirir at y ffilm fel carreg filltir hanes sinema Prydain. Y mae Russell wedi cyfarwyddo gweithiau mor amrywiol â ffilmiau cerdd bywgraffiadol (The Music Lovers, er enghraifft), ffilmiau cerddoriaeth roc (Tommy), addasiadau o weithiau llenyddol (Lady Chatterley) a ffilmiau arswyd-hanesyddol (The Devils).

Ymhlith yr actorion adnabyddus sydd wedi ymddangos yn ffilmiau'r cyfarwyddwr unigolyddol hwn y mae Oliver Reed, Alan Bates, Glenda Jackson, Robert Powell, Amanda Donohue, Hugh Grant a Kathleen Turner.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i ddenu ffigwr mor uchel ei broffil a diddorol i gynhadledd gyntaf Cyfrwng, ac rydym yn edrych ymlaen i groesawu Ken Russell i Fangor, meddai John Hefin, Cadeirydd Cyfrwng.

Mewn digwyddiad sy'n agored i'r cyhoedd am 4:30pm ddydd Gwener 16 Ebrill, ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau yn y Brifysgol, bydd Cyfrwng, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru Bangor, yn cynnig cyfle prin i glywed Ken Russell yn trafod ei waith a'i yrfa hyd yn hyn, a chawn glywed ganddo hanes ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Prifysgol Cymru, Bangor


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy