Roedd y torfeydd yn well nag erioed a nifer y fflotiau'n fwy hefyd yng Ngharnifal Abergwaun a drefnwyd gan y Ford Gron, er gwaetha'r tywydd.
Wedi'r agoriad swyddogol gan y Maer, Mr David Williams, fe aethpwyd ati i feirniadu'r ymgeiswyr. Tom Latter a Buzz Knap-Fisher aeth a hi gyda'u harddangosfa ar y cyd yn dwyn y teitl 'Atebion Byd-eang'. Ar y fflôt roedd hen dwmp olew llygredig, gyda char nodedig Buzz yn dilyn.
Mae yna Dalent ym Mhanteg, ddaeth yn ail, a FADDS yn drydydd. Y Pendre oedd enillydd y dafarn orau a Tir a Môr y siop orau. Bu cystadlu brwd yn adran y gwisgoedd ffansi. 0 dan 10 oed y Babell Gwrw ddaeth yn gyntaf, Alice in Wonderland, gyda'i chwningen, yn ail, a Brynosaurus yn drydydd. 0 11 oed i 16 oed, yn gyntaf oedd I've been framed', Nancy yn ail a 'Bull's Eye' yn drydydd. Dros 17, daeth yr Artful Dodger yn gyntaf, daeth Nancy'n ail a chafodd y Taflwr Disg trydydd. Yn y grwpiau, daeth Fagin a'i griw yn gyntaf, Yr Olympiau yn ail a Nancy ac Oliver yn drydydd. Roedd lori fawr Martin Hall wedi'i gwisgo mewn lliwiau Ilachar Apél Arch Noa yn amlwg, a bu ef hefyd yn hael iawn yn caniatau i bobol ddefnyddio ei dreilers i'w haddurno ar gyfer y carnifal. Dywedodd y cadeirydd, Mr Robin Baker, fod Carnifal Ford Gron Abergwaun a'r Cylch ynghyd â 'Thynnu'r Wagen' wedi codi arian sylweddol i elusennau lleol.
Diolchodd i bawb a gymrodd ran am eu hymdrechion, i'r cyhoedd am ddod, ac i'r sawl a noddodd y prynhawn. Y Skazz oedd yn darparu'r gerddoriaeth, gan ddechrau'n addas iawn gyda 'Jazz in the Park'.
 |