BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Enillwyr y panto GymraegAbergwaun yn ennill y Panto Gymraeg
Ebrill 2009
Mae tair ysgol yn Sir Benfro wedi bod yn cystadlu am dlws enillwyr y panto Gymraeg.

Daeth tri chlwb â'r llenni i lawr ar dymor Pantomeim Clwb y Ffermwyr Ifanc Sir Benfro yn ddiweddar.

Yn Ysgol Bro Gwaun y cynhaliwyd y gystadleuaeth, gydag aelodau o glybiau Eglwyswrw, Abergwaun a Hermon yn ymgeisio ar gyfer y wobr yng nghystadleuaeth y Panto Cymraeg.

Gyda choed oedd yn siarad, llygod enfawr, esgimos, gwartheg a choed ffa hudolus yn gwefreiddio'r gynulleidfa, cafwyd perfformiadau gwych gan y clybiau mewn cystadleuaeth weddol newydd i'r sir gan mai dyma'r ail dro yn unig i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn Gymraeg.

Gyda'r fath safon uchel, roedd yn addas fod y gwobrau yn cael eu rhannu drwy fod Abergwaun yn ail-gipio'r goron a enillwyd ganddynt dair blynedd yn ôl, y perfformiwr gwrywaidd gorau, Steffan Jones, yn dod o Eglwyswrw a Caryl Howells o Hermon fel y berfformwraig orau.

Aeth clwb Abergwaun felly ymlaen i gynrychioli Sir Benfro yng Nghystadleuaeth Genedlaethol y Pantomeim Gymraeg a gynhaliwyd yn Rhuthun ar ddydd Sadwrn, 28 Mawrth.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy