BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Cerddorion yng Ngwyl Pres Sir BenfroLawnsio Gwyl Pres Sir Benfro
Mai 2009
Mae Gwyl Pres wedi cael ei chynnal yn Sir Benfro.

Ar benwythnos Gwener, Sadwrn a Sul, Ebrill 3ydd, 4ydd a'r 5ed, cynhaliwyd Ysgol Gerdd Offerynnau Pres yng Nghanolfan Stackpole ger Penfro, wedi ei threfnu gan bedwar ffrind - sef Matthew Jenkins (Abergwaun); Gareth Ritter; Robin Hackett; a Simon Howell, y pedwar yn (neu wedi bod yn) fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y Ganolfan, lle addas iawn i gynnal ysgolion penwythnos fel hyn. Mae llawer o ddiolch yn eiddo i'r Cwmni Murco am eu caredigrwydd drwy help ariannol, a'r rhodd o grysau-T i bob un yn cynnwys eu logo. Diolchwn hefyd i Mr Tuba a fu'n ddigon caredig i'w cefnogi drwy ddanfon pecyn o nwyddau i bob un ar y cwrs.

Bu llawer o aelodau Band Pres Wdig yn bresennol ar y cwrs, hefyd cerddorion offerynnau pres o wahanol rannau o Sir Benfro (yr ifancaf yn 10 mlwydd oed), gan wneud tua 40 o chwaraewyr i gyd.

Cyrhaeddodd pawb Stackpole ar y nos Wener, a thrwy gydol dydd Sadwrn a rhan fwyaf o'r Sul, buont yn ymarfer yn galed yn chwarae a dysgu, o dan y Cyfarwyddwr Cerdd, Mr Nigel Seamen, cerddor enwog sy'n chwarae'r tiwba gyda Cherddorfa BBC Cymru, ac yn grefftwr ar ei waith.

Uchafbwynt y cwrs oedd cynnal Cyngerdd ar y nos Sul a bu llawer o berthnasau aelodau'r band yno, a'r neuadd yn orlawn o wrandawyr. Perfformiwyd cyngerdd wych o dan arweiniad Mr Nigel Seaman, ac roedd ôl y dysgeidiaeth dros y penwythnos yn dangos yn y perfformiad.

Yn ystod y gyngerdd, roedd Mr Dave Danford wedi ei wahodd i chwarae'r marimba, ac roedd ei weld a gwrando arno'n chwarae'r offeryn yma'n rhyfeddol iawn.

I gloi, roedd y penwythnos yn llwyddiannus iawn, y tywydd yn sych a heulog, a phawb yno wedi mwynhau'r bwyd, y cwmni a'r profiad. Edrychant ymlaen i gael penwythnos tebyg y flwyddyn nesaf eto.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy