Bu dathlu mawr yn Awelfa, Porthyrhyd yn ddiweddar. Mae deng mlynedd wedi mynd ers i Dylan Williams gael trawsblaniad arennau a phancreas. Felly, penderfynodd Dylan a Carol ar barti i ddathlu, gan wahodd teulu a ffrindiau i'r ty i gael gwledd, er bod y tywydd yn wlyb. Trefnwyd bod casgliad yn cael ei wneud tuag at Ymchwil yr Arennau, a thrwy garedigrwydd Banc Barclays, oedd yn rhoi swm penodol, codwyd y swm anrhydeddus o £1,770 tuag at yr apêl. Diwrnod cofiadwy i bawb - yn enwedig Dylan sy'n dal i ganu ac, yn ôl yr englyn (gan Iwan Rhys): Y mae hwn yma o hyd - er bob clais. Er bob clwy a chlefyd, Gan fyw, trwy gân ei fywyd Wrth yr awr ym Mhorthyrhyd.
 |