BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Mrs Mary ThomasMam yn gant oed
Hydref 2004
Ar Fedi 6 2004, roedd Mrs. Mary Thomas, Hunfan, Drefach, Llanelli, sy'n dal i gadw cartref a chymryd diddordeb yn y byd o'i chwmpas, yn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed.

Ar yr achlysur arbennig hwn derbyniodd lu o gyfarchion swyddogol yn ogystal â chardiau ac anrhegion gan berthnasau, cymdogion a chydnabod a oedd yn dymuno'n dda iddi. Cafodd ddathlu gyda pharti teuluol yn 'The Old Emlyn Arms' Llanarthne, lle gwelwyd hi yn mwynhau cinio blasus a gwydraid bach o win.

'Sgrifennwyd ychydig o benillion gan ei merch yng gnhyfraith i gofnodi'r garreg filltir hon yn ei hanes.

Dyma ddetholiad o'r penillion. Gallwch ddarllen y gerdd yn ei chyfanrwydd yn rhifyn Hydref o Papur Y Cwm.

Roedd mam yn gant oed 'leni
Ar ddydd Llun cynta' Medi,
Mae'n ffaith sy'n gwir rhyfeddu
Cymydog, ffrind a theulu.

Mor llawen oedd cael dathlu,
Hir hoedledd pen y teulu,
Mae'n haeddu ei hedmygu
Am frwydro i oroesi.

...

Mae'n hynaf un o blant y fro,
Deil lu hanesion yn ei cho'
Am ddyddiau ysgol oes a fu,
Athrawon a disgyblion lu.

Nid pawb gaiff gerdyn gan y Cwîn,
Ac yn y papur weld ei llun
Yn gwenu'n hynaws ar ei phlant
A hithe bellach dros y cant!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy