BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Cwmni Arad GochLleuad yn Olau
Mehefin 2005
Eleni, mae T. Llew Jones. un o awduron plant mwyaf toreithiog Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ac mae ei waith mor berthnasol ag erioed.

Tyst i hyn yw'r ffaith fod Cwmni Theatr Arad Goch wedi dew is addasu un o'i gyfrolau - Lleuad Yn Olau - ar gyfer ei sioe haf eleni a fydd yn teithio ledled Cymru.

Jeremy Turner yw'r cyfarwyddwr ac mae'r cast yn wynebau cyfarwydd i gynulleidfaoedd sioeau Arad Goch - Ffion Wyn Bowen, Rhiannon Morgan. Owain Llŷr Edwards, Eifion Dafydd ac Iwan Charles.

Mae Rhiannon yn hanu o Gwm Gwendraeth ac mae'n falch iawn o gael y cyfle i berfformio ym Mhontyberem, Caerfyrddin a Llanelli, meddai: "Mae cynulleidfaoedd Cymru i gyd yn grêt ond mae cynulleidfaoedd yr ardal yma yn hynod o groesawgar, mae'n bleser mawr cael perfformio iddynt."

Heb os mae T. Llew yn storïwr penigamp a dyma a geir yn Lleuad yn Olau - casgliad o storïau cyffrous, byrlymus fydd yn swyno cynulleidfaoedd o blant ac oedolion fel ei gilydd. Mae rhai ohonynt yn arbennig i Gymru, eraill yn debyg i storïau o ddiwylliannau a gwledydd eraill, ond maent oll yn rhan o'n hetifeddiaeth a'n hymwybyddiaeth. Mae yma dylwyth teg, cewri, gwrachod, hud a lledrith.

Mae modd i chi ymweld â byd cyfareddol T. Llew mewn 13 canolfan ar draws Cymru - perfformir yn:

  • Neuadd Elli, Llanelli, Ddydd Iau 16 Mehefin am 10.30 am. (01554 774057);
  • Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, Ddydd Mercher 22 Mehefin am 1.30 p.m. (01994 241222)
  • Neuadd Pontyberem, Ddydd Gwener 24 Mehefin am 1.30 p.m. (01269 871600).

    Am fanylion pellach cysylltwch â Chwmni Theatr Arad Goch, 01970 617998, [email protected] neu ymwelwch â'r wefan www.aradgoch.org


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy