BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Y ddwy Sandra a fu'n paratoi'r lluniaeth ar y noson. Blas ar Batagonia
Haf 2004
Ar nos Lun, y mis diwethaf cynhaliodd y Dosbarth Sbaeneg ei noson arbennig, sef Blas at Batagonia.
Daeth llawer ynghyd i gymeryd rhan ar y noson. Cymerodd Mrs. Hazel Charles Evans y rhannau arweiniol sef y croesawu a rhoi trefniadau 'r noson ger bron y gynulleidfa. Roedd naws hapus a chyfeillgar i'r noson a phawb yn cymeryd diddordeb yn y gweithgareddau. Bu Elen Davies a Donald Williams yn dangos sleidiau ar Batagonia a gwerthfawrogwyd eu gwaith yn fawr iawn.

Bu Tito Lewis a'r Dr. Dafydd Lloyd yn egluro ac yn arddangos yr eitemau ar y byrddau a bu Gareth Jones o Lyfrgell Rhydaman yn arddangos bwrdd llyfrau am hanes yr Ariannin. Dangosodd Hazel stori ddigidol o'r enw 'Brics i Batagonia' a gafodd ei gwneud yn arbennig i'r BBC a bydd y stori hon ar y We yn y dyfodol. (ar safle yma - Cipolwg ar Gymru)

Daeth y noson i ben gyda chanu emynau yn yr iaith Sbaeneg a thiwtor y dosbarth, Mr. Steve Morris yn arwain y canu gyda Mrs. Sheila Evans, aelod o'r dosbarth Sbaeneg, yn cyfeilio. Bu'r raffl yn llwyddiannus iawn yn nwylo Colin Smith a Berwyn Hughes. Daeth noson hyfryd i ben a'r gwmnïaeth yn fendigedig.

Hoffai aelodau'r Dosbarth ddiolch i'r prif noddwyr Mr. R. W. Evans, Mr. Tom Gravell a Mr. David Gravell, Mr. Bill Hughes a Menter Cwm Gwendraeth am eu haelioni. Diolch hefyd i bawb a gyfrannodd wobrau at y raffl am eu caredigrwydd.

Codwyd y swm anrhydeddus o £750 tuag at ddefnydd Canolfan Gymraeg Esquel - yn yr Andes.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy