| Naw pwynt yn unig y sicrhaodd Stevens yn y bum ffrâm wrth i Hendry, pencampwr y byd ar saith achlysur, hawlio ei le yn yr ail rownd. Bydd y Cymro arall, Mark Williams yn wynebu Stephen Lee yn y rownd gyntaf ddydd Mawrth. Bu'n rhaid i Jimmy White dynnu'n ôl o'r gystadleuaeth oherwydd problemau yn sicrhau fisa. Mae hynny yn golygu bod Tian Pengfei o Tsiena drwodd i'r rownd nesaf ac fe fydd yn wynebu Mark Selby o Loegr.
 |