BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Snwcer

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 20 Chwefror 2011

Higgins yn amddiffyn ei goron Gymreig

Enillodd John Higgins Bencampwriaeth Agored Cymru am yr ail dro yn olynol ar ôl perfformiad meistrolgar yn y sesiwn olaf i guro Stephen Maguire 9-6 yng Nghasnewydd.

Roedd Maguire ar y blaen o 5-3 wedi chwarae'r prynhawn, ac mi fyddai'r fantais wedi bod hyn yn oed yn fwy oni bai am sawl camgymeriad blêr.

Manteisiodd Higgins i'r eithaf ar hynny i aros yn y gêm, ac yna fe newidiodd trywydd y frwydr yn gyfan gwbl wrth iddo ennill pum ffrâm yn olynol.

Daeth y rhediad yna i ben wrth i Maguire gwneud hi'n 6-7, ond ymatebodd Higgins gyda rhagor o chwarae gwych i gipio'r ddwy nesaf i sicrhau buddugoliaeth emosiynol.

Bythefnos yn unig sydd wedi bod ers i Higgins golli ei dad i ganser, ac roedd yr emosiwn yn amlwg ar ei wyneb wrth iddo godi'r tlws o lechen Gymreig.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy