BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Snwcer

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 18 Chwefror 2011

Williams a Stevens yn colli yng Nghasnewydd

Mae Mark Williams a Matthew Stevens allan o Bencampwriaeth Agored Cymru ar ôl colli yn rownd yr wyth olaf.

Mark Williams

Collodd Williams o 5-3 yn erbyn Stephen Maguire cyn i Stevens golli o'r un sgôr yn erbyn pencampwr y llynedd, John Higgins.

Roedd Higgins yn cymryd rhan yn ei gystadleuaeth gyntaf ers marwolaeth ei dad yn ddiweddar.

Fe fydd yr Albanwr yn awr yn wynebu Ali Carter, y gŵr y trechodd yn y rownd derfynol y flwyddyn ddiwethaf.

Ac yn gynharach yn y dydd fe ddaeth rhediad Mark Williams yn y gystadleuaeth i ben hefyd.

Er colli'r ffrâm agoriadol roedd hi'n edrych yn debyg y byddai'r Cymro yn mynd fewn ar yr egwyl yn arwain 3-1 ond i Maguire ddod yn gyfartal.

Wedi rhediad o 63 roedd Williams yn ôl ar y blaen ac yn arwain 3-2.

Ond sicrhaodd Maguire rediadau o 105 a 68 cyn selio ei bedwaredd fuddugoliaeth mewn pum gem yn erbyn Williams.

Yn y rownd gyn-derfynol fe fydd Maguire yn wynebu Mark Selby, drechodd Graeme Dott 5-3.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy