Daeth dwy gôl y Seintiau o fewn yr hanner awr gyntaf. Daeth y gôl gyntaf, pan wyrodd Chris Thomas y bêl i'w rwyd ei hun, ar ôl 17 munud, cyn i Craig Jones ddyblu'r fantais ar ôl hanner awr. Efo pum gêm yn weddill, mae'r Seintiau a Bangor ar 61 pwynt - ond, mae gwahaniaeth goliau'r Seintiau yn +51, sydd 14 yn well na Bangor.
 |