Capten Abertawe, Natalie Ashford, sgoriodd gôl gyntaf y gêm wedi 18 munud, yn penio cic gornel Sarah Adams i'r rhwyd. Aeth pencampwyr Cymru ym mhellach ar y blaen bum munud cyn yr egwyl, gyda Laura Mae Walkley yn sgorio'r ail i'w thîm. Cafodd y drydedd gôl ei chreu gan Walkley - ei phas hi yn rhoi'r cyfle i Ella Walsh wneud yn siŵr fod y gêm a'r gwpan allan o gyrraedd Caernarfon.
 |