| Yr oedd Bangor wedi bod ar y blaen ddwywaith yn erbyn Port Talbot ar Ffordd Farrar drwy Alan Bull a Darren Moss. Ond dwywaith fe darodd yr ymwelwyr yn ôl gyda Lee Surman yn unioni gôl Bull cyn yr egwyl. Cafodd Nicky Ward ei yrru o'r maes yn yr ail hanner i'r tîm cartref cyn y sgoriodd Lloyd Grist gôl gyfartal i dim Mark Jones yn y munudau olaf. 0nd ni lwyddodd y Seintiau Newydd i fanteisio fodd bynnag yn erbyn Castell-nedd ar y Gnoll. Roedd Chris Sharp wedi rhoi'r Seintiau ar y blaen wedi 40 munud cyn i ddwy gôl gan Lee Trundle, gan gynnwys cic o'r smotyn, roi'r tîm cartref ar y blaen. Ond fe achubodd Scott Ruscoe bwynt i'r ymwelwyr pan sgoriodd gyda dau funud o'r gêm yn weddill. Mae'r Seintiau yn parhau triphwynt y tu ôl i Fangor ac wedi chwarae un gêm yn llai na'r Dinasyddion. Ar noson brysur yn yr Uwchgynghrair roedd Llanelli yn fuddugol o 2-1 ym Mhrestatyn. Roedd Llanelli ar y blaen wedi 10 munud drwy gôl Chris Venables cyn i Ross Stephens unioni'r sgôr. Ond fe sgoriodd Rhys Griffiths ei ugeinfed gôl o'r tymor yn ystod yr ail hanner i sicrhau'r fuddugoliaeth i Lanelli. Yng nghyngres y gemau ail-gyfle roedd Aberystwyth yn fuddugol o 1-0 yng Nghaerfyrddin gyda Lewis Codling yn rhwydo'r unig gol. Ac roedd gôl gan Sam Bailey yn ddigon i'r Drenewydd drechu Airbus ar Barc Latham. Yn y gêm a chwaraewyr bnawn Sul, trechodd y Bala Hwlffordd o 3-2, diolch i ddwy gôl hwyr gan Mike Hayes. Chris Mason sgoriodd gôl gyntaf y Bala, gyda Jack Christopher yn sgorio dwy gôl Hwlffordd.
 |