Mae'r gŵr 38 oed wedi cyd-weithio gyda hyfforddwyr amlwg o'r Iseldiroedd megis Frank Rijkaard, Louis Van Gaal, Guus Hiddink a Dick Advocaat. Bu'n aelod o dimau hyfforddi'r Iseldiroedd, Rwsia, De Corea ac Awstralia. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn cyd-weithio gyda Craig Bellamy, gan ddilyn yr ymosodwr o Manchester City i Gaerdydd. Fe fydd yn ymuno gyda Chymry ar gyfer gêm gyntaf Speed wrth y llyw, yr ornest yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghwpan y Cenhedloedd nos Fawrth yn Stadiwm Aviva. "'Dwi'n falch iawn i gael Raymond fel rhan o fy nhîm," meddai Speed. "Fe fydd ei brofiad yn profi'n allweddol ac rwy'n edrych ymlaen at gael cyd-weithio gydag ef dros y blynyddoedd nesaf gan ddechrau wrth gwrs gyda fy ngêm gyntaf wrth y llyw yn Nulyn nos Fawrth." Mae Speed hefyd wedi penodi Osian Roberts a Damien Roden i'w dîm hyfforddi.
 |